Menyw wedi marw yn Sir Benfro ar ôl dioddef ymosodiad gan gi

Mae menyw oedrannus wedi marw dair wythnos ar ôl i gi ymosod arni yn Sir Benfro.
Fe ddioddefodd y fenyw 72 oed anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad yn nhref Wdig ddydd Mawrth 10 Awst.
Cafodd ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Treforys ond bu farw ar 1 Medi yn dilyn yr ymosodiad, meddai Wales Online.
Nid oedd unrhyw bryderon blaenorol am ymddygiad y ci yn ôl yr heddlu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google