‘Tryweryn dyddiol’: Trigolion Llŷn yn adeiladu 'pont o obaith' gyda phentref ym Mhalesteina

Madama yn y Lan Orllewinol

Dros y misoedd diwethaf, mae trigolion pentref ym Mhen Llŷn wedi bod yn meithrin cysylltiad â phentref ar y Lan Orllewinol ym Mhalesteina, gyda'r bwriad o adeiladu "pont o obaith".

Dywedodd Llŷr ap Rhisiart, sy’n byw yn Llanaelhaearn ac yn arwain y prosiect, fod y berthynas wedi dechrau pan ddaeth trigolion y pentref ger Pwllheli i ddeall mwy am yr heriau sy’n wynebu pobl Madama, a hynny drwy'r sefydliad Friends of Palestine.

Mae’n dweud fod clywed straeon am fywyd amaethyddol a chydnerthedd cymunedol wedi taro tant gyda chymuned wledig yng Nghymru.

O ganlyniad, dechreuodd y ddwy gymuned gyfathrebu’n rheolaidd ar-lein, gan rannu profiadau, hanesion teuluol a thraddodiadau diwylliannol.

"O’n i’n teimlo bod sefyllfa'r Palesteiniaid yn druenus," meddai Mr ap Rhisiart wrth Newyddion S4C.

"Sefyllfa anobeithiol ar lefelau gwahanol lle mae gynnyn nhw eu dyheadau fel unrhyw berson arall i fyw yn heddychlon, ond bod eu sefyllfa nhw'n amhosib."

Mae Madama yn bentref ar y Lan Orllewinol, tua 5km i’r de o ddinas Nablus, ar uchder o 517 metr.

Gyda phoblogaeth o dros 2,000 o bobl, mae Madama fel gweddill y diriogaeth yn gymuned sydd wedi bod dan feddiannaeth filwrol Israel ers 1967.

Mae 62% o ardal y pentref wedi’i dynodi yn Ardal B, sy’n golygu ei bod yn cael ei rheoli ar y cyd gan Israel a’r Awdurdod Palesteinaidd, tra bo 38% yn Ardal C, sydd dan reolaeth sifil a diogelwch lawn Israel.

Image
 ystod protest i nodi Diwrnod y Tir ym mhentref Madama yn y Lan Orllewinol
Dyn o bentref Madama yn dal baner Palesteina o flaen milwyr Israel yn ystod protest i nodi Diwrnod y Tir yn 2017 (Llun: Reuters)

Er ei bod yn anghyfreithlon i sefydlu aneddiadau ar dir Palesteinaidd o dan gyfraith ryngwladol, mae llywodraeth Benjamin Netanyahu wedi cipio llawer o dir Madama i sefydlu anheddiad Yitzhar ar ben y bryniau yno, gan effeithio ar fywoliaeth ffermwyr sy’n dibynnu ar goed olewydd.

Ym mis Chwefror, cymeradwyodd cabinet diogelwch Israel fesurau sy’n cynyddu awdurdod y wlad mewn sawl ardal o’r Lan Orllewinol, gan gynnwys Ardaloedd A a B, sydd o dan reolaeth lawn neu rannol yr Awdurdod Palesteinaidd.

Mae Llywodraeth y DU wedi beirniadu cynlluniau Israel i ehangu aneddiadau yn y rhanbarth dro ar ôl tro, gan alw ar lywodraeth Israel i ddod â nhw i ben. Mae'n dweud y byddai’r cynlluniau yn tanseilio ymdrechion i sicrhau heddwch a sefydlogrwydd.

Dywedodd Mr ap Rhisiart fod sefyllfa trigolion Madama yn "dorcalonnus" a bod y berthynas yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o realiti bywyd bob dydd yn y pentref.

"Dwi’n meddwl bod ni fel Cymry yn gallu cydymdeimlo efo rhai o'u profiadau nhw," meddai.

"Sydd ond angen edrych ar Tryweryn, er enghraifft, ond mae eu Tryweryn nhw yn ddyddiol.

"Felly mae’r sefyllfa yn dorcalonnus, ond mae gwytnwch nhw fel pobl yn anhygoel."

'Pontio cymunedau'

Dros y misoedd nesaf, bydd cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol ar y cyd yn cael eu cynnal, gan gynnwys prosiect sy’n darlunio’r cysylltiad rhwng mynyddoedd yr Eifl yn Llanaelhaearn a bryniau Jabal Qubal ar y Lan Orllewinol.

"Mae celf yn bwerus a geiriau hefyd o ran barddoniaeth ac yn y blaen," meddai Mr ap Rhisiart.

"Defnyddio'r pethau hynny 'da ni am neud a chwaraeon hefyd i bontio cymunedau."

Fe aeth ymlaen i ddweud y bydd trigolion Madama hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu Eisteddfod Llanaelhaearn yn rhithiol yn yr hydref.

"Mae gyno nhw eu beirdd eu hunain, ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhannu eu cerddi nhw yn ôl yn fyw ar draws y sgrin," meddai.

Yn ôl Mr ap Rhisiart, bwriad y digwyddiadau ydi cynnig gobaith i bentrefwyr Madama.

"Pobl yda ni ar ddiwedd y dydd a 'da ni gyd eisiau byw mewn heddwch a chael gweithio a bod yn hapus gyda’n teuluoedd, ond dydi'r Palestiniaid ddim yn cael gwneud hynny - a dyna di'r cam," meddai.

"Os allwn ni helpu nhw i gywiro'r cam mewn unrhyw ffordd, fydda ni’n fwy na hapus i wneud hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.