
Cofio 9/11: Y digwyddiad oedd yn ‘ymosodiad ar bawb’
Cofio 9/11: Y digwyddiad oedd yn ‘ymosodiad ar bawb’
Ar fin dychwelyd ei gar gwaith i’r ddinas oedd Mel Williams ar 11 Medi 2001.
Yn ddydd Mawrth arferol, doedd e, na miloedd o bobl eraill yn Efrog Newydd, ddim wedi dychmygu bod yn dyst i’r olygfa drychinebus honno a newidiodd yr Unol Daleithiau am byth.
Bu bron i 3,000 o bobl farw yn ystod ymosodiadau'r grŵp terfysgol Islamaidd, al-Qaeda ar Ganolfan Fasnach y Byd a’r Pentagon.
Roedd 67 ohonyn nhw’n Brydeinwyr.
20 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r dyn camera o Wynedd, sydd bellach yn byw yn Efrog Newydd, yn un o’r Cymry sy’n cofio’r ymosodiadau.

“Y bwriad oedd mynd â’r car i Efrog Newydd, ddim yn bell o le o'n i’n gweithio,” meddai.
“A duwcs, o'n i’n edrych lawr, golygfa o'n i wedi gweld llawer gwaith o’r blaen, ac edrych ar y ddau dwr na.
“Ac fel sa na rywbeth yn dweud wrtha fi, cym olwg Mel, achos hwn fydd y golwg ddwytha gei di o’r ddau dwr 'na yn sefyll fel ‘na.
“Munudau ar ôl fi roid y camera fyny, oedd tŵr y gogledd yn llosgi, roedd 'na fwg mawr du."
Yn fuan iawn, fe sylweddolodd Mel ei fod yn wynebu golygfa gwbl, gwbl ddifrifol.
“Sa fo’n amhosib iddyn nhw ddod allan o hwnnw yn fyw – doedd na ddim posib iddyn nhw ddod i dop y tŵr.
“Oedd hi’n gynnar yn bora, oedd na lot o bobl yn gweithio yn y tŵr na. Mae be oedd yn mynd drwy feddyliau pobol, ma jyst yn ddifrifol i feddwl am y peth.
“Jyst y ffaith bod ganddyn nhw ddim dewis i losgi i farwolaeth, neu neidio allan.”
Un o’r bobl oedd wrth ei desg pan darodd yr awyren gyntaf tŵr y gogledd am 08:46 oedd Katherine Wolf o Abertawe.
Roedd hi wedi dechrau gweithio i gwmni Marsh & McLennan ar lawr 97 tŵr y gogledd, yr adeilad cyntaf i’r terfysgwyr eu targedu'r diwrnod hwnnw.

Wrth siarad ar raglen 9/11 Diwrnod Wnaeth Newid Fy Mywyd, mae Charles Wolf yn disgrifio’r panig o geisio cysylltu gyda’i wraig ar ôl clywed y newyddion.
“Roedd ganddi swydd newydd, a do'n i ddim yn gwybod be oedd ei rhif gwaith, be oedd ei rhif symudol,” meddai.
“Roedd yn rhaid i mi chwilio amdanyn nhw, ac wedyn nes i ffonio. Yr unig beth ges i oedd signal, beep beep beep.
“Ro ni wedi fy ngyrru o 'nghof.”
“Nes i ddarganfod yn ddiweddarach bod ei desg hi'r pedwerydd o ffenest orllewinol y tŵr.”
Am 08:06 y bore hwnnw oedd y tro diwethaf i Charles roi cusan ffarwel i’w wraig.

Chwarter awr ar ôl i’r awyren gyntaf daro’r tŵr yr oedd Katherine Wolf yn gweithio ynddo, am 09:03, cafodd tŵr y de ei daro gan awyren arall.
O fewn yr awr, fe wnaeth y tŵr hwnnw ddymchwel i’r llawr; golygfa sydd wedi aros yng nghof Mel Williams ers hynny.
‘Da chi wedi gweld fy ngwraig?’
“Y peth nesa’, nath y tŵr dde ddymchwel. Y ffordd hawsa' i ddisgrifio’r adeilad ydy fel bocs, a munud ma rhywun yn rhoi twll yn ochr y bocs, ma’n colli ei gryfder.
“Dyma nhw yn sylweddoli fod tŵr y gogledd yn debygol o ddod lawr hefyd, ac mewn dim o amser, dyna be ddigwyddodd.
“Bob man oeddech chi’n mynd, oedd pobol hefo lluniau yn gofyn, ‘da chi di gweld fy mrawd, fy ngwraig, fy ngŵr?’”
“Oedda nhw o bob rhan o’r byd, o bob crefydd.
“Oedd o’n ymosodiad ar bawb, dyna sy’n ddifrifol.”
Mae rhaglen 9/11 Diwrnod Wnaeth Newid Fy Mywyd ar gael i’w gwylio ar wefan S4C Clic.