Galw ar bobl i gadw draw o bentref ym Môn wedi digwyddiad
Mae'r gwasanaethau brys wedi galw ar bobl i gadw draw o bentref ar Ynys Môn yn dilyn digwyddiad yno.
Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru neges ar y cyfryngau cymdeithasol ychydig cyn hanner nos, nos Iau, yn galw ar bobl i osgoi ardal Mynydd Mechell ger Amlwch.
"Cadwch draw o'r ardal tra byddwn yn delio gyda’r digwyddiad os gwelwch yn dda", meddai llefarydd.
Yr un oedd y neges gan Heddlu'r Gogledd hefyd:
"Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar hyn o bryd yn bresennol mewn digwyddiad ym Mynydd Mechell, Amlwch. Osgowch yr ardal tan hysbysiad pellach."
Nid oes rhagor o wybodaeth am union natur y digwyddiad ar hyn o bryd.