‘Fandaliaeth sylweddol’ i un o barciau poblogaidd Caerdydd

10/09/2021
Parc Biwt, Caerdydd

Mae fandaliaeth gwerth "miloedd o bunnoedd" wedi digwydd dros nos ym Marc Biwt yng Nghaerdydd.

Fe gafodd dros 50 o goed eu dinistrio a nifer o finiau eu rhwygo o’r concrit yn y ddigwyddodd nos Iau.

Yn sgil y difrod a gafodd ei ddarganfod fore Gwener, mae swyddogion Cyngor Caerdydd yn parhau i asesu’r parc ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.

Yn ôl Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon i Gyngor Caerdydd, mae “difrod troseddol sylweddol” wedi effeithio “man sydd mor agos at ein calonnau”.

Dywedodd: “Mae gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod wedi’i wneud yr holl ffordd o Bont y Gored Ddu i Ystafelloedd Te Pettigrew.

“Rwy’n condemnio’r ymddygiad hwn yn llwyr. Nid yw hyn yn dderbyniol.

“Ni does rheswm o gwbl i unrhyw un ddinistrio ardal sydd yno’n unswydd i bawb ei fwynhau.

“Mae hon yn drosedd ac mae’r heddlu wedi cael gwybod,” ychwanegodd.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111 i helpu i ddelio a’r weithred ddisynnwyr hon o fandaliaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.