Llys yn clywed fod brodyr wedi bod yn rasio cyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhowys

Rhys Jenkins
Rhys Jenkins

Mae llys wedi clywed fod dau frawd sydd wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth tad mewn gwrthdrawiad ffordd wedi bod yn rasio eu gilydd cyn y digwyddiad.

Mae Abubakr Yusaf, 31 oed, ac Umar Yusaf, 35 oed, o Fanceinion, yn gwadu achosi marwolaeth Rhys Jenkins drwy yrru’n beryglus.

Bu farw Mr Jenkins, 41 oed, o Bowys, yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A483 i’r de o’r Trallwng ar 16 Tachwedd 2024.

Cafodd ei fab naw oed hefyd ei anafu’n ddifrifol yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae’r ddau frawd hefyd yn gwadu achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae Abubakr Yusaf hefyd wedi ei gyhuddo o yrru car heb yswiriant.

Wrth amlinellu achos yr erlyniad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd y bargyfreithiwr David Mainstone fod Abubakr Yusaf wedi colli rheolaeth ar gar BMW ar ôl gyrru’n gyflym a goddiweddyd yn beryglus.

Dywedodd fod y BMW wedi symud i ochr arall y ffordd, gan adael dim cyfle i Mr Jenkins osgoi’r gwrthdrawiad.

Yn ôl yr erlyniad, roedd Umar Yusaf wedi annog ei frawd ac roedd y ddau ddyn yn gyfrifol am achosi'r gwrthdrawiad angheuol.

Clywodd y rheithgor fod y naill frawd yn gyrru car BMW a char Audi ar hyd yr A483 rhwng 18:00 a 18:30.

Dywedodd tyst i'r digwyddiad, Ryan Jones, ei fod wedi gweld y BMW yn goddiweddyd ar dro yn y ffordd.

Disgrifiodd y symudiad fel un “anhygoel o fyrbwyll a pheryglus”.

Dywedodd nad oedd wedi synnu pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

“Roedd yn anochel. Allwch chi ddim gyrru mor gyflym â hynny ar y ffyrdd yna,” meddai.

Bu farw Mr Jenkins yn y fan a’r lle.

Cafodd ei fab ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.

Clywodd y rheithgor fod data o fag aer y BMW yn dangos bod y car yn teithio ar gyflymder o fwy na 63mya adeg y gwrthdrawiad.

Dywedodd yr erlyniad fod y brodyr wedi gadael y safle ar ôl y gwrthdrawiad.

Mae’r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.