Rhybudd am nofio mewn dŵr agored gan fam a gollodd ei mab mewn cronfa ddŵr
Mae mam a gollodd ei mab pan foddodd bron i 20 mlynedd yn ôl yn rhybuddio pobl ifanc am beryglon nofio mewn dŵr oer ar ôl i fwy o farwolaethau mewn dŵr agored gael eu cofnodi ledled y DU yn ystod y tywydd poeth diweddar.
Fe foddodd mab Maxine Johnson, Reuben, yn 2006 wrth fwynhau diwrnod yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ym Merthyr Tudful.
Roedd y bachgen 15 oed yn gwersylla gyda ffrindiau i ddathlu diwedd eu haroliadau TGAU cyn i rai benderfynu nofio ar draws y gronfa ddŵr.
Dywedodd Ms Johnson fod Reuben wedi marw ar ôl profi sioc dŵr oer.
Dywedodd wrth ITV Cymru: "Mae eich corff yn ymateb i oerfel y dŵr, ac ar ddiwrnod poeth fel heddiw ac fel pan fu farw Reuben, mae'r dŵr oer yn sioc i'ch corff ac rydych chi'n panicio ac yn mynd i drafferthion.
"Os na allwch chi reoli eich anadlu a bod y panig yn cymryd drosodd, yna gallwch chi foddi."
Marwolaethau diweddar
Daw rhybudd Ms Johnson ar ôl i fenyw 72 oed farw ar ôl cael ei thynnu o'r dŵr ar draeth Bae Gorllewin Angle yn Sir Benfro ddydd Sul diwethaf.
Ei marwolaeth yw'r ddiweddaraf i ddigwydd mewn dŵr agored dros gyfnod gŵyl banc ar hyd y DU, gyda saith o blant hefyd wedi colli eu bywydau.
Esboniodd Maxine Johnson sut mae'r newyddion am y marwolaethau diweddar wedi bod yn anodd i ymdopi ag o.
“Mae'n eithaf heriol i fod yn onest,” eglurodd.
“Dydw i ddim wedi cael llawer o gwsg yn yr wythnos ddiwethaf yn meddwl am y teuluoedd.
“Mae'n dod â phopeth yn ôl i'r diwrnod y bu farw Reuben.”
Dywedodd Maxine fod effaith marwolaeth Reuben yn dod a loes nid yn unig i'r teulu, ond hefyd i ffrindiau Reuben a'i welodd yn diflannu yn y gronfa ddŵr.
Dywedodd: "Mae ei ffrindiau a oedd gydag ef wedi cael eu trawmateiddio ac wedi bod yn byw gyda llawer yr holl flynyddoedd hyn.
"Fe sylweddolon nhw y gellir cipio bywyd i ffwrdd mewn ychydig eiliadau. Doedden nhw ddim yn sylweddoli pa mor ddifrifol oedd hi nes iddyn nhw weld Reuben yn diflannu yn y dŵr."
Fel ymgyrchydd dros atal boddi, mae Ms Johnson bellach yn galw am addysgu pobl ifanc ar sut i aros yn ddiogel o amgylch dŵr oer.
Dywedodd ei bod hi'n hanfodol bod pob plentyn yn deall y risgiau o fynd i mewn i leoliadau fel cronfeydd dŵr. "
Mae angen addysg gyson am hyn," ychwanegodd.
"Mae gennym ni genhedlaeth newydd o bobl ifanc sydd eisiau mwynhau'r amgylchedd hardd. Gadewch i ni eu cadw'n ddiogel."
Lluniau gan ITV Cymru