Naid o awyren i gefnogi aelod o'r teulu gafodd diwmor ar ei ymennydd
Bydd menyw o Abertawe yn neidio allan o awyren i godi arian i elusen tiwmor yr ymennydd wedi i’w brawd yng nghyfraith dderbyn diagnosis ar ôl cael ffit ar wyliau gyda’i deulu.
Roedd Ashley Curtis, sydd yn dad i ddau o blant, yn mwynhau taith i Miami pan oedd ar fordaith i ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed ym mis Mawrth 2024.
Ar ddiwrnod olaf y gwyliau, fe gafodd ffit. Ar ôl derbyn cyngor gan feddyg y llong i ymlacio, fe gafodd ail ffit ar ganol pryd gyda’i deulu.
Cafodd ei gludo mewn ambiwlans o’r porthladd i Ysbyty Prifysgol Miami, gyda sganiau yn dangos bod ganddo diwmor ar ei ymennydd, a bod angen llawdriniaeth arno ar frys.
Dywedodd Ashley, sydd yn 32 oed: “Roedd cael gwybod bod gen i diwmor ar yr ymennydd yn frawychus, yn enwedig gan fod mor bell o gartref mewn gwlad arall.
“Digwyddodd popeth mor gyflym ag roedd yn teimlo fel pe bai ein byd cyfan wedi cael ei droi wyneb i waered dros nos.
“Roedd y llawdriniaethau a'r adferiad yn anhygoel o anodd, ond rwy'n ddiolchgar fy mod i dal yma ac yn gallu mynd yn ôl i wneud y pethau rwy'n eu caru gyda fy nheulu.”
Adferiad
Roedd yn rhaid i Ashley aros ym Miami yng nghwmni ei wraig Casey am fis er mwyn gwella o’r llawdriniaeth, gyda’i blant, Leilah, chwech oed, a Leo, tair oed, wedi hedfan adref gyda gweddill ei deulu.
Ar ôl dychwelyd i Abertawe, fe wnaeth sganiau pellach yn ysbyty Athrofaol Cymru ddangos bod modd tynnu rhagor o’r tiwmor, gan arwain at ail lawdriniaeth ym mis Mehefin 2024.
Wedi’r llawdriniaeth, fe wnaeth Ashley golli teimlad yn ochr chwith ei gorff, ac roedd yn rhaid iddo dderbyn ffisiotherapi dwys yn ystod ei adferiad.
Nawr, ddwy flynedd wedi’i ddiagnosis, mae Ashley wedi dychwelyd i weithio fel plymar hunan-gyflogedig, ac mae'n dal i chwarae pêl droed ac yn derbyn sganiau rheolaidd.
Dywedodd ei chwaer-yng-nghyfraith, Harleigh Phillips, oedd ar y daith gydag Ashley: “Dydych chi byth yn meddwl y bydd hynny’n digwydd i’ch teulu chi.
“Mae tiwmorau ar yr ymennydd yn dod o unman. Ond mae gobaith. Mae yna bobl yn byw gyda thiwmorau ar yr ymennydd am 10 neu 15 mlynedd ac yn byw bywydau hapus.
“Nid yw bob amser yn dristwch ac yn ddu. Mae Ashley wedi dangos cryfder anhygoel trwy bopeth y mae wedi’i wynebu.”
Er mwyn cefnogi Ashley, mae Harleigh, 23 oed, wedi penderfynu neidio allan o awyren er budd elusen Brain Tumour Research. Mae eisoes wedi codi mwy na £1,000 ac mae’n gobeithio codi hyd yn oed mwy cyn y naid.
Dywedodd: “Rwy’n nerfus am neidio o 10,000 troedfedd, ond bydd yn brofiad anhygoel ac mae’r cyfan ar gyfer achos mor bwysig. Mae codi ymwybyddiaeth yr un mor bwysig â chodi arian.”
Prif Lun: Harleigh Phillips ac Ashley Curtis / Craith Ashley yn dilyn llawdriniaeth
