Mellten yn achosi tân mewn tŷ yn Sir Benfro
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn Sir Benfro ddydd Mercher wedi i fellten achosi tân yno.
Cafodd diffoddwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o orsafoedd tân Hwlffordd ag Arberth eu hanfon i’r digwyddiad yn Slebets, Hwlffordd.
“Fe wnaeth y criwiau ymateb i dân mewn eiddo domestig oedd wedi ei achosi gan fellten,” meddai llefarydd.
“Roedd y tân wedi ei gyfyngu i linell ffôn yr eiddo ac un gadair.
“Roedd y tân wedi diffodd pan gyrhaeddodd y criwiau, ac fe wnaeth aelodau’r criw wirio’r eiddo, gan gynnwys gofod yr atig, i sicrhau nad oedd y tân wedi lledaenu.”
Fe wnaeth y criwiau dderbyn y galwad am 14.30 ac roedden nhw wedi gadael am 15.03.
Daw'r digwyddiad wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt ar draws rhannau helaeth o Gymru brynhawn a nos Fercher.
Daeth y rhybudd i rym am 15:00 ac mae'n parhau tan hanner nos.