Dartiau: Dau Gymro'n brwydro i godi tlws yr Uwch Gynghrair
Bydd y ddau Gymro Jonny Clayton a Gerwyn Price yn ceisio cipio teitl Uwch Gynghrair y Dartiau yn y rowndiau terfynol nos Iau.
Wrth i'r gynghrair ddod i'w therfyn, bydd Luke Littler, Luke Humphries, Clayton a Price yn cystadlu i ennill y tlws yn yr O2 yn Llundain.
Littler orffennodd ar frig y gynghrair ac felly bydd yn herio Gerwyn Price, a orffennodd yn y pedwerydd safle.
Mae hynny’n golygu bod Clayton yn herio cyn-bencampwr y byd, Luke Humphries.
Mae Clayton, o Bontyberem, wedi bod ar dân yn ystod y gystadleuaeth eleni, gan ennill pedair o'r 16 noson.
Roedd ar frig y gynghrair am gyfnod ond tua diwedd yr ymgyrch roedd Littler wedi cymryd ei le yn y safle uchaf.
Bu'n rhaid i Luke Humphries aros tan y noson olaf ond un i sicrhau ei le yn y rownd gyn-derfynol, ar ôl ymgyrch weddol dda.
Mae pob gêm rhwng Clayton a Humphries y tymor hwn wedi bod yn agos, gyda'r Cymro yn ennill tair o'u pum gornest ddiwethaf tra bod Humphries wedi ennill dwy.
Mewn ras i 10 cymal, Clayton fydd yn taflu gyntaf, a allai fod yn hanfodol mewn gêm agos.
Fel Humphries, roedd Price wedi sicrhau ei le yn y gemau ail-gyfle yn hwyr yn yr ymgyrch.
Bydd y dasg o'i flaen yn anodd, ar ôl i Littler ennill chwe noson o'r 16 a gorffen cymal y gynghrair ar y brig.
Dyw Price, o Farkham yn Sir Caerffili, heb ennill un o'i bum gêm ddiwethaf yn erbyn Littler, gyda phob un o'r gemau yn yr Uwch Gynghrair.
Pe bai Price a Clayton yn ennill eu gemau, yna fe fydd y ddau Gymro yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol.
Enillodd Clayton y gystadleuaeth yn 2021, tra bod cyn-bencampwr y byd, Price, erioed wedi codi'r tlws.
Bydd enillydd yr Uwch Gynghrair hefyd yn ennill £350,000, gyda'r chwaraewr yn yr ail safle yn sicrhau £170,000.
£110,000 yw'r wobr i'r chwaraewyr sydd yn colli yn y rownd gyn-derfynol.
