Y 'storm berffaith' ym Môn wrth geisio cadw'r ieuenctid ar yr ynys

Newyddion S4C
Disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni
Disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni

Wrth i filoedd o bobl ifanc heidio i Ynys Môn yr wythnos hon, sut mae cadw’r ifanc rhag gadael eu milltir sgwâr?

Yn ôl Prif Weinidog newydd Cymru, mae angen creu "bwrlwm a hyder" yn economi Cymru a chreu swyddi yng nghefn gwlad.

Wrth siarad yn Eisteddfod yr Urdd ym Môn, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod creu swyddi i bobl ifanc allu aros yn eu cymunedau yn flaenoriaeth i’w lywodraeth. 

Ond mae pryder gan rai bobl ifanc fod yn dal rhaid croesi’r bont a gadael cymunedau Cymreig os am gael swyddi o ansawdd, gydag un economegydd yn dweud fod 'na "storm berffaith" wrth i'r ifanc adael a phobl hŷn ymddeol i Gymru. 

Yn ôl ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru, yn y 18 mis hyd at 2024, gadawodd 650 o bobl ifanc rhwng 16-24 Ynys Môn. 

Yn yr un cyfnod, dychwelodd 421, a hynny’n golygu fod colled net o 229 i gyd. 

Yn Ysgol Gyfun Llangefni, mae criw o bobl ifanc yn pwyso a mesur eu cyfleoedd ac opsiynau ar gyfer y dyfodol. 

Yn ôl Elan, sydd ym mlwyddyn 13, mae pryder a oes digon o gyfleoedd i ddenu pobl fel hi yn ôl i’r ynys ar ôl gadael. 

“I bobl ifanc, 'dw i’n credu fod yr ardal yn un braf iawn i fyw yn ond [...] mae’n anodd cadw ni o gwmpas oherwydd does dim digon o gyfleoedd 'dw i’n teimlo,” meddai.

“Yn enwedig os ‘da chi isho mynd i faes hynod unigryw, dydi Ynys Môn ddim yn rhywle sy’n cynnig hyn.”

Image
Elan a Gruff o Ysgol Gyfun Llangefni
Elan a Gruff o Ysgol Gyfun Llangefni

Yn ôl Elan, mae nifer o’i ffrindiau a chyfoedion yn teimlo yr un fath, bod yn rhaid gadael os am ganfod swyddi o sgiliau uchel a chyflogau tebyg. 

Ond gydag addewid y bydd swyddi yn cael eu creu yn sgil cynllun atomfa Wylfa yng ngogledd yr ynys a hefyd cynlluniau ynni fel Morlais, mae Gruff sydd hefyd ym mlwyddyn 13 yn teimlo’n fwy obeithiol. 

“I fi fel rhywun sy’n meddwl mynd mewn i beiranneg, mae’n cyffrous clywed am y cynlluniau yn Wylfa a chynlluniau Wylfa,” meddai.

Ychwanegodd fod gan Fôn lot fawr i gynnig i bobl ifanc. 

'Storm berffaith'

Dros y degawd diwethaf, mi brofodd Ynys Môn un o’r gostyngiadau mwyaf o ran cyfraddau geni. 

Mae ystadegau hefyd yn dangos fod y boblogaeth ifanc yn gostwng ar gyfartaledd, ond bod mwy o bobl hŷn yn symud i’r sir.

Mae hynny’n creu storm berffaith, medd yr economegydd Dr Edward Jones. 

“O ran pobl hŷn yn symud yma, mae nhw’n rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn anffodus, fel y gwasanaeth iechyd,” meddai.

“A dy nhw ddim yn talu’r un math o drethi a be fasa pobl ifanc yn neud.

“Pan mae pobl ifanc yn gadael, ma’n golygu fod na lai hefyd i gefnogi’r economi gan bod ni’n gwybod fod pobl ifanc yn dueddol o wario.”

Image
Dr Edward Jones.

Ar faes yr Eisteddfod, dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth fod creu swyddi mewn llefydd fel Môn a chymunedau gwledig tebyg yn flaenoriaeth. 

“Mae creu bwrlwm economaidd yn allweddol wrth greu cyfleoedd i bobl ifanc aros neu ddychwelyd i’w milltir sgwar,” meddai. 

“Pan ‘da ni’n ystyried yr Asiantaeth Ddatblygu y bydd y llywodraeth yma’n ei sefydlu un o hanfodion creiddiol hwnnw ydi bod bwrlwm a llewyrch economaidd yn ymestyn i bob rhan o’r wlad a nid dim ond y llefydd sydd wedi gweld bwrlwm economaidd o blaen.

“Mae na heriau gwirioneddol ‘da ni wedi etifeddu.

“Yr hyn mae’n llywodraeth i yn benderfynol o’i neud ydi creu momentwm ac impetus tu ôl i dŵf ecomaidd fel da ni erioed wedi gweld o blaen.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.