Band Metallica'n gobeithio rhoi hwb i Wasanaeth Gwaed Cymru

Metallica

Mae band Metallica yn cydweithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru i annog eu cefnogwyr i roi gwaed wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer chwarae yn Stadiwm Principality.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gweithio gyda’r band roc Americanaidd i annog rhoddwyr presennol i ddychwelyd a rhoddwyr newydd i ddod ymlaen.

“Lle bynnag rydyn ni’n mynd ar daith, rydyn ni eisiau rhoi rhywbeth ystyrlon yn ôl i’r cymunedau sy’n ein croesawu ni,” meddai llefarydd ar ran y band.

“Rydyn ni wedi gweld yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia sut mae gweithio gyda gwasanaethau gwaed yn gallu helpu i godi ymwybyddiaeth o roi gwaed a chefnogi cleifion.”

Bydd y band yn chwarae yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddiwedd mis Mehefin.

Dywedodd Alan Prosser, llefarydd ar ran Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae hon yn foment wirioneddol unigryw i roi gwaed ar draws y DU. 

“Mae gweithio gyda band sydd â chyrhaeddiad byd-eang Metallica yn ein galluogi ni i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd a thynnu sylw at yr angen parhaus am waed.

“Yn union fel mae cerddoriaeth metel yn rhedeg yn gryf trwy wythiennau cefnogwyr Metallica, felly hefyd y gwaed sy’n rhoi’r grym i achub hyd at dri bywyd gyda phob rhodd.

“Mae rhoi gwaed bob amser yn wirfoddol ac yn ddi-dâl yn y DU, felly mae pob person sy’n dewis rhoi yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a theuluoedd mewn angen. 

“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o gydweithrediad sy’n dod â phobl at ei gilydd i achub bywydau.”

Bydd Metallica hefyd yn gweithio gyda Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn Lloegr, a Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cenedlaethol yr Alban wrth chwarae ym Mharc Hampden yng Nglasgow a Stadiwm Llundain dros yr haf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.