Plentyn wyth oed a dau arall wedi eu hanafu wedi gwrthdrawiad ar gyrion Caerdydd

Gwrthdrawiad Caerdydd

Mae plentyn wyth oed a dau berson arall wedi eu hanafu wedi gwrthdrawiad mewn gwasanaethau ar gyrion Caerdydd fore Llun.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw ar ddeall bod car wedi gwrthdaro ag adeilad manwerthu ar safle Gwasanaethau Porth Caerdydd (Cardiff Gate) ar gyffordd 30 tua 11.30.

Mae tri o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty, gan gynnwys y plentyn wyth oed a dyn 39 oed, oedd ill dau yn gerddwyr, a dynes 76 oed oedd yn gyrru’r cerbyd.

Nid oes disgwyl i’r un o’r anafiadau beryglu bywyd.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad ar y gweill.

Mae unrhyw un oedd yn y lleoliad ac a allai fod wedi gweld beth ddigwyddodd yn cael ei annog i gysylltu â’r heddlu – gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600162925.

Lluniau: ITV

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.