Pump yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng Sir Gâr a Sir Benfro
Mae pum person yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng Sir Gâr a Sir Benfro nos Sul.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod tri pherson ag anafiadau difrifol ar ôl y gwrthdrawiad ar yr A477 rhwng Llanteg a Rhos-goch am 17:00.
Roedd dau gar, Honda Civic i-VTEC llwyd a Kia Soul 2 gwyn, yn y gwrthdrawiad.
Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ac yn cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl y gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth a allai fod o gymorth i'w ymchwiliad.
Dywedodd y llu eu bod eisiau clywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar yr A477 tua 17:00 nos Sul neu sydd â lluniau camerau cylch cyfyng o unrhyw gerbyd oedd yn y gwrthdrawiad.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn gofyn i bobl oedd yn ymweld â'r ardal wirio eu taith rhag ofn eu bod wedi teithio ar y ffordd adeg y digwyddiad.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy eu gwefan, ffonio 101 neu anfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 326 24 Mai.