Dau berson wedi eu holi mewn cysylltiad â difrod i gerflun seren Monty Python

Cerflun Terry Jones

Mae'r heddlu yn dweud eu bod wedi cyfweld dau berson sy'n cael eu hamau o achosi difrod i gerflun o seren Monty Python, Terry Jones, ym Mae Colwyn yr wythnos hon. 

Fe gafodd y cerflun ei fandaleiddio yn gynharach yn yr wythnos, lai na mis yn unig ar ôl iddo gael ei ddadorchuddio.

Dywedodd y cerflunydd Nick Elphick ar y pryd ei fod yn “dorcalonnus” gweld y difrod i’r cerflun ar y promenâd rhwng Porth Eirias a’r Pier.

Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau eu bod wedi holi dau berson mewn cysylltiad â'r achos o fandaliaeth, ond nid oes unrhyw gyhuddiadau ffurfiol wedi eu gwneud hyd yma.

Fe gafodd Terry Jones, a fu farw yn 77 oed yn 2020, ei eni a’i fagu ym Mae Colwyn cyn symud i Loegr pan oedd yn bedair oed.

Un o gymeriadau mwyaf enwog Jones oedd yr organydd noethlymun a ymddangosodd ar Monty Python’s Flying Circus yn 1972.

Roedd ffans y gyfres wedi llwyddo i godi £120,000 mewn chwe mis ar gyfer y gwaith gan y cerflunydd Nick Elphick, sydd â’i stiwdio i lawr y ffordd yn Llandudno.

Mae'r cerflunydd eisoes wedi dweud ei fod yn gobeithio trwsio’r cerflun, ond fe ddisgrifiodd y sefyllfa fel un “drist iawn, iawn”.

Mae'r ymchwiliad ar y cyd, rhwng yr heddlu â Chyngor Conwy yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.