Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd gefn ger Corwen
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Corwen yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi hanner nos ddydd Sadwrn 23 Mai, yn dilyn y gwrthdrawiad oedd yn ymwneud ag un cerbyd ar ffordd gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger Corwen.
Yn ôl yr heddlu, mae'r car Ford Escort melyn, a gafodd ei gofrestru gyntaf yn 1992, wedi ei ddisgrifio fel cerbyd “math rali”.
Bu farw’r gyrrwr, oedd yn ddyn 70 oed, yn y fan a’r lle.
Mae swyddogion o Uned Troseddau’r Ffyrdd bellach yn ymchwilio i’r digwyddiad, sydd yn cael ei drin fel gwrthdrawiad traffig, ac mewn datganiad, dywedodd y Sarjant Emma Birrell o dîm Troseddau’r Ffyrdd: “Rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i’r teulu ar yr adeg anodd hon.
“Mae’r digwyddiad hwn bellach yn cael ei ymchwilio fel gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol.
“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio neu’n cerdded yn yr ardal ac sydd efallai â lluniau ffôn symudol neu gamerâu dashcam, i gysylltu â swyddogion.”
Fe all unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy’r wefan swyddogol yr heddlu neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 0078902.