Galw ar ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd i 'yfed dŵr a dod ag eli haul' wrth i don wres daro Cymru
Mae "lles a diogelwch mynychwyr wrth wraidd cynllunio Eisteddfod yr Urdd" yn ôl y trefnwyr gyda disgwyl y bydd ton wres yn taro Cymru dros y penwythnos.
Mae trefnwyr yr ŵyl wedi galw ar bobl i sicrhau eu bod nhw'n yfed digon o ddŵr ac yn dod ag eli haul wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi ddydd Iau y gallai Cymru brofi cyfnod o dywydd poeth dros benwythnos gŵyl y banc.
Mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd uchafbwynt o tua 28°C neu 29°C dros y penwythnos yng Nghymru.
Gallai Cymru fodloni’r meini prawf ar gyfer ton wres erbyn dydd Sul, sef tri diwrnod yn olynol dros 25°C.
Am y tro cyntaf, fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros saith diwrnod eleni, gan ddechrau ddydd Sadwrn a gorffen ddydd Gwener 29 Mai.
Gyda disgwyl y bydd y tywydd poeth yn cyrraedd ar ddechrau'r ŵyl, dywed yr Urdd eu bod wedi "cymryd pob cam posibl i sicrhau profiad diogel a chysurus i bawb."
Ychwanegodd yr Urdd fod "nifer o ffynonellau dŵr wedi’u lleoli ar hyd y maes er mwyn galluogi pawb i lenwi ac ail-lenwi eu poteli dŵr aml-ddefnydd yn rhwydd".
"Bydd poteli aml-ddefnydd a chapiau haul hefyd ar gael i’w prynu o Siop Mistar Urdd," medden nhw.
"Rydym yn annog pawb i yfed dŵr yn gyson drwy gydol eu hymweliad ac i ddod ag eli haul gyda nhw. Yn ogystal, mae digon o gyfleoedd i gysgodi o amgylch safle’r ŵyl, gan gynnwys y pafiliynau, stondinau, adeiladau a strwythurau pwrpasol fel pebyll cysgodol."
Y diwrnod cynhesaf a gofnodwyd yn y DU hyd yma eleni oedd 26.6C yn Kew Gardens yn ne-orllewin Llundain ym mis Ebrill.