Y flwyddyn waethaf ar gofnod o ran tirlithriadau medd Cyngor Gwynedd

Y flwyddyn waethaf ar gofnod o ran tirlithriadau medd Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud iddyn nhw wynebu’r “flwyddyn waethaf o ran tirlithriadau” eleni a bod hynny yn rhoi straen ar adnoddau a chyllid.  

Yn ôl un aelod o gabinet y Cyngor mae angen mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru os oes disgwyl i awdurdodau lleol ddygymyod â sgil effeithiau newid hinsawdd fel tirlithiadau, llifogydd a thannau gwair. 

Yn ardal Nefyn mae sawl tirlithiad wedi digwydd eleni gyda rhannau o’r llwybr cyhoeddus wedi gorfod cau yn ardal Porthdinllaen yn fwy diweddar hefyd. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n cydnabod yr angen i addasu a newid er mwyn ymateb i sgil effeithiau newid hinsawdd. 

Ers degawdau mae rhannau o arfordir Nefyn wedi bod yn llithrio i’r mor wrth i dirlithiadau daro. 

Fe ddigwyddodd un tirlithiad ganol Ebrill ac un arall ym mis Mawrth yn ôl Cyngor Gwynedd gan ledaenu mwd a phridd o’r clogwyni ar y traeth. 

Ond wrth i’r gost o lanhau’r difrod ac atgyweirio llwybrau cyhoeddus godi, mae’r cyngor yn rhybuddio fod y gwaith yn dod â sawl her.

Image
june jones
Y Cynghorydd June Jones sy’n Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth. 

“Mae’n rhoi straen sylweddol," meddai’r Cynghorydd June Jones sy’n Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth. 

“Does na’m posib rhagweld pryd fydd nhw’n digwydd ac mae nhw’n digwydd yn sydyn.

“Mae’n straen ar adnoddau a hefyd yn straen ariannol."

Yn ôl y Cynghorydd June Jones mae’n rhaid i fwy o gyllid ddod i lywodraethau lleol i ddygymod â heriau tebyg.

“Meddyliwch am faint o arfordir sydd gan Wynedd, mae na fwy o dirlithiadau... ma’n rhaid cael cyllid ac mae’n rhaid iddo ddod o rhywle, unai’r llywodraeth yn ganolog, Llywodraeth Cymru neu fydd yn rhaid i drethdalwyr dalu," meddai.

Image
dr dei huws.jpg
Dr Dei Huws 

Wrth i adroddiad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol y Deyrnas Unedig rybuddio am sgil effeithiau newid hinsawdd mae sôn hefyd y gallai tirlithiadau ddigwydd yn fwy cyson. 

O ganlyniad i safon y tir a rhediad y dŵr, mae ardal Nefyn wedi wynebu nifer o dirlithiadau dros gyfnod o ddegawdau, ond rhybuddio mae rhai arbenigwyr fel Dr Dei Huws sy’n ddaearegwr ym Mhrifysgol Bangor, y gallai’r nifer gynyddu yn y blynyddoedd i ddod. 

“Mae cymunedau fel Nefyn ac unrhyw ardal arfordirol wedi gorfod ymdopi efo hyn yn y cefndir," meddai.

“Mae tirlithiadau wedi bod yn digwydd.

“Dwi’n darogan erbyn y genhedlaeth nesa bod hyn am fod yn digwydd llawer mwy a byddwn ni fel cymdeithas yn gorfod ymdopi efo newid hinsawdd lot mwy ‘na da ni wedi gorfod hyd yn hyn.

“Mae hwn yn un engraifft o sut mae newid hinsawdd yn effeithio arnom ni o fewn un bywyd."

Tra’n cydnabod fod ansawdd y tir a gaeafau gwlypach yn golygu bod tirlithriadau wedi digwydd ers blynyddoedd, pwysleisio mae Dr Huws fod disgwyl i’r nifer gynyddu ac iddyn nhw ddigwydd yn amlach gan osod mwy o her i gymunedau.

Image
tirlithriad.jpg

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae cyfres o dirlithriadau yn golygu fod rhannau o’r wal fôr yn ardal Nefyn yn parhau yn ansefydlog. 

“Mae llawer o ddŵr yn llifo fel mwd gwlyb i’r traeth islaw," medden nhw.

“Pan fo digwyddiadau o’r fath, blaenoriaeth y cyngor yw ail-agor y llwybr, pan fo’n ddiogel i wneud hynny."

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gorfod symud llwybr i mewn i’r tir a'r brydiau i ddiogelu llwybr yr arfordir a’u bod yn disgwyl i achosion tebyg gynyddu wrth i sgil effeithiau newid hinsawdd daro.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n croesawu yr adroddiad gan y pwyllgor newid hinsawdd a’u bod wedi ymrwymo i wella paratoadau y wlad i sgil effeithiau newid hinsawdd. 

“Drwy ymateb rwan fe allwn greu dyfodol tecach a chryfhau gwydnwch Cymru," medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.