Duffy yn awgrymu y bydd hi'n dychwelyd i'r byd cerddoriaeth
Mae’r gantores sy'n wreiddiol o Nefyn ym Mhen Llŷn, Duffy, wedi rhannu neges sy'n awgrymu ei bod am ddychwelyd i’r byd cerddoriaeth.
Mewn neges ar ei chyfrif Instagram, dywedodd y gantores 41 oed ei bod yn “gweithio i ddod yn ôl atoch chi”, ynghyd â llun ohoni hi’n eistedd mewn stiwdio recordio.
“Petawn i ond yn gallu dod o hyd i'r geiriau cywir i esbonio faint rydw i wedi'ch colli chi gyd,” meddai yn y neges i’r 185,000 o bobl sydd yn dilyn ei chyfrif ar y cyfrwng.
Daw’r neges yn dilyn cyhoeddiad fis Mawrth y byddai Duffy yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen newydd gan drafod am y tro cyntaf ei phrofiad o gael ei herwgipio ac o wynebu ymosodiad rhyw.
Bydd y gantores, sydd yn enwog am ei chaneuon 'Mercy' a 'Warwick Avenue' yn siarad yn agored am ei bywyd fel ffigwr cyhoeddus a'i bywyd preifat mewn rhaglen ddogfen newydd ar Disney+.
Fe ddaeth y seren yn adnabyddus wedi i'w halbwm Rockferry gael ei rhyddhau yn 2008.
Roedd y gân 'Mercy' yn rhif un yn y siartiau cerddoriaeth Prydeinig am bum wythnos y flwyddyn honno.
Fe ddatgelodd y gantores yn 2020 ei bod hi wedi cael ei threisio a'i chaethiwo.
