Sir Gâr: Ymgyrchwyr Ysgol Meidrim yn cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y cyngor
Mae ymgyrchwyr sydd yn ceisio achub ysgol wledig yn Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn cynlluniau'r cyngor yn yr Uchel Lys.
Fe gyflwynwyd achos am adolygiad barnwrol ynghylch y bwriad i gau Ysgol Meidrim yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Mae'r ymgyrchwyr yn honni fod y broses ymgynghori yn anheg, ac nad yw'r cyngor wedi bod yn barod i ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol yr ysgol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw tan y bydd y dyfarniad yn cael ei gyhoeddi mewn tua thair wythnos.
Roedd cynrychiolwyr yr ysgol wedi mynychu'r Llys Sifil yn y Brifddinas ddydd Mawrth i glywed adolygiad barnwrol ynghylch y broses ymgynghori ar gyfer y posibilrwydd o gau Ysgol Meidrim.
Ni chafodd unrhyw benderfyniad ei wneud yn y gwrandawiad, ond fe ychwanegodd y cynrychiolwyr eu bod yn "obeithiol".
Ym mis Tachwedd y llynedd fe wnaeth aelodau cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gefnogi yn unfrydol cynnig i gynnal ymgynghoriad statudol ar gau Ysgol Meidrim.
Fe allai’r ysgol gau erbyn 31 Rhagfyr 2026 os ydy’r cyngor yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.
Mae dogfennau'r cyngor yn nodi bod disgwyl penderfyniad terfynol ynghylch cau'r ysgol ym mis Mehefin.
Mae gan yr ysgol 31 o ddisgyblion tra bod capasiti'r ysgol yn 54.