Mike Bubbins a Steve Speirs i ysgrifennu dilyniant i’r ffilm Grand Slam

Llun o gast gwreiddiol Grand Slam

Mae'r comediwr Mike Bubbins wedi datgelu ei fod wedi cael yr hawliau i ysgrifennu dilyniant i Grand Slam, ffilm o'r 70'au sydd wedi dod yn glasur yng Nghymru.

Fe gyhoeddodd y digrifwr a’r actor adnabyddus y newyddion ar ei bodlediad The Socially Distant Sports Bar, gan ddweud ei fod yn bwriadu cyd-ysgrifennu’r prosiect gyda Steve Speirs.

“Dw i wedi cael yr hawliau i ysgrifennu dilyniant i Grand Slam,” meddai Bubbins ar y podlediad.

Mae Bubbins yn adnabyddus am ei waith ar Mammoth a Tourist Trap, tra bod Speirs yn gyfrifol am greu The Tuckers ac wedi ymddangos mewn cyfresi fel Stella ac Extras.

Cafodd Grand Slam ei darlledu gyntaf ar BBC1 yn 1978, ac mae’n dilyn grŵp o gefnogwyr rygbi Cymru ar daith i Baris ar gyfer gêm y Gamp Lawn yn erbyn Ffrainc.

Mae’r ffilm wreiddiol, gan Gwenlyn Parry a John Hefin, yn cael ei hystyried yn glasur yng Nghymru, gyda chast oedd yn cynnwys Dewi “Pws” Morris, Sharon Morgan, Windsor Davies, Sion Probert a Hugh Griffith.

Wrth drafod y prosiect, dywedodd Bubbins nad oedd am ail-greu’r ffilm wreiddiol, ond yn hytrach ysgrifennu dilyniant fyddai’n deyrnged iddi.

“Does dim pwynt ei hail-wneud, achos dw i’n meddwl ei bod hi’n berffaith fel ag y mae,” meddai.

Image
Mike Bubbins a Steve Spiers
Mike Bubbins a Steve Speirs fydd yn cyd-ysgrifennu’r sgript newydd

Dywedodd Bubbins ei fod ef a Speirs eisoes wedi cynnal cyfarfodydd am y syniad, a’u bod yn gobeithio dal “calon” y ffilm wreiddiol yn y dilyniant.

“Gobeithio hefyd y bydd cwpl o’r cast gwreiddiol sydd dal gyda ni yn gallu bod yn rhan ohono,” meddai.

Wrth egluro pam ei fod eisiau dychwelyd at y stori, dywedodd Bubbins ei fod wedi cyfarfod â merch i un o awduron y ffilm wreiddiol.

Dywedodd ei bod hi wedi gofyn iddo pam Grand Slam?

“Achos dw i’n meddwl ei bod hi’n un o fy hoff ffilmiau. Dw i’n caru popeth amdani.”

Ychwanegodd fod gan y ffilm “hiraeth a chalon go iawn”, a bod y cymeriadau a’r sgript yn “wych”.

Dywedodd Bubbins fod trafodaethau hefyd wedi bod am fersiwn lwyfan o’r stori, ond mai’r hawliau ar gyfer fersiwn sgrin yw’r hyn y mae ef wedi bod yn gweithio arno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.