Pont y Borth ar gau eto

pont y borth.jpg

Mae Pont y Borth, sy’n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr, wedi cau unwaith eto fore Mercher ar ôl i gerbyd dros y pwysau sy’n cael ei ganiatáu ei chroesi.

Yn ôl Traffig Cymru bydd archwiliad yn digwydd nawr a bydd y bont yn cael ei hail agor cyn gynted ag y bod hi yn saff i wneud hynny.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol maent yn ymddiheuro bod y bont yn gorfod cau.

"Mae cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont felly mae’n rhaid cau’r ffordd er mwyn gwneud archwiliad. Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy’n saff i wneud hynny.

"Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig. Hoffwn eich atgoffa mai cerbydau o dan 7.5t yn unig sy’n cael croesi Bont y Borth."

Ers dydd Mercher diwethaf mae un lôn wedi bod ar gau, gyda goleuadau traffig yn rheoli llif y cerbydau.

Ond roedd rhaid cau'r bont yn llwyr i gerbydau brynhawn dydd Gwener a thrwy ddydd Sadwrn tan 18:00 er mwyn cynnal gwaith i'w diogelu.

Mae'r bont rŵan eto wedi cau yn llwyr.

Y bwriad yw codi'r cyfyngiadau ar un lôn cyn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 ar Faes Sioe Amaethyddol Môn ger Gwalchmai rhwng Mai 23 a 29.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.