Llywodraeth y DU wedi llacio rhai sancsiynau ar olew o Rwsia
Mae Llywodraeth y DU wedi llacio rhai o'u sancsiynau ar olew o Rwsia.
Daw hyn wedi'r blocâd ar Gulfor Hormuz ers i'r rhyfel ddechrau rhwng Iran ac America ac Israel.
Mae yna bryder am brinder cyflenwadau olew nawr yn sgil y blocâd.
Ers y rhyfel mae costau petrol a diesel wedi bod yn cynyddu yn ogystal â phrisiau tanwydd ar gyfer awyrennau.
Yn ôl cwmni moduro'r RAC, pris cyfartalog petrol oedd £158.52c y litr ddydd Llun - y pris uchaf ers dechrau'r rhyfel.
Mae nifer o gwmnïau awyrennau sydd yn gweithredu ym Mhrydain ac o gwmpas y byd wedi canslo hediadau ac wedi codi prisiau yn sgil y cynnydd mewn pris tanwydd.
Bydd y newidiadau yn golygu y gall diesel a thanwydd awyrennau o Rwsia gael eu defnyddio os ydyn nhw wedi cael eu puro mewn gwledydd eraill.
Mae trwydded wedi ei rhoi sydd yn caniatáu cynnyrch o'r fath i gael ei fewnforio am gyfnod "amhenodol", ond fe fydd y Gweinidog Busnes yn adolygu'r drwydded bob hyn a hyn.
Roedd San Steffan wedi gwahardd mewnforio cynnyrch olew o Rwsia oedd wedi ei buro mewn gwledydd eraill fis Hydref diwethaf.
Fe wnaethon nhw hyn yn sgil y rhyfel yn Wcráin ac er mwyn cynyddu'r pwysau ariannol ar Rwsia.
Mae'r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi symudiad tebyg ddechrau'r wythnos sydd wedi cael ei feirniadu.
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae'r sancsiynau ar y cyfan tuag at Rwsia wedi mynd yn fwy llym, ond roedd angen rhywfaint o hyblygrwydd.
