'Mor neis i weld nhw'n dathlu Cymru': Tŵf rygbi yn America

Newyddion S4C

'Mor neis i weld nhw'n dathlu Cymru': Tŵf rygbi yn America

Washington DC - mewn dinas sy’n fwy adnabyddus am wleidyddiaeth na rygbi - mae’r gamp yn parhau i dyfu’n gyflym, ac mae Cymru wrth galon y stori.
 
Mae dros drideg o glybiau rygbi yn rhanbarth Washington DC. Dros y penwythnos fe wnaeth clwb proffesiynol Old Glory DC gynnal diwrnod arbennig o’r enw “Salute to Wales” - dathliad o dreftadaeth Gymreig a’r dylanwad mae Cymru wedi’i gael ar rygbi ledled y byd.
 
Roedd baneri Cymru i’w gweld ymhlith y dorf, wrth i’r clwb ddathlu Cymru a Chymreictod.
 
Mae Old Glory DC yn cystadlu ym mhrif gynghrair rygbi’r Unol Daleithiau, Major League Rugby. Un o’r Cymry sydd wrth wraidd datblygiad y clwb yw Steffan Hughes - cyn-chwaraewr dan 20 Cymru ac aelod o dimau’r Scarlets a’r Dreigiau.
 
Symudodd Steffan Hughes i America y llynedd ac mae bellach yn hyfforddwr ymosod gyda’r clwb.
 
"Mae'n siŵr os nad oedd bach o context, mae'n swnio bach yn od," meddai.
 
"Gweithiodd y clwb yn dda iawn o ran dodi fflagiau Cymru, daffodils a chrysau Cymru mas. A gaethon nhw band yn chwarae bach o gerddoriaeth Cymraeg cyn y gêm.
 
"Mae Kirby Myhill 'da ni yma hefyd sy'n chwarae fel bachwr, a yn amlwg fi, fi o Gymru hefyd."
 
Image
Steff Hughes
Steffan Hughes
 
Mae Major League Rugby wedi ehangu’n sylweddol ers ei sefydlu yn 2018, gyda mwy o fuddsoddiad, mwy o sylw teledu, a diddordeb cynyddol yn y gamp ar draws yr Unol Daleithiau.
 
Mae gan y gynghrair glybiau proffesiynol mewn sawl talaith gan gynnwys California, Gogledd Carolina, Illinois, Massachusetts, Virginia a Washington.
 
Daeth dros ddeuddeng mil o gefnogwyr i’r rownd derfynol yn San Diego y llynedd — arwydd pellach o dwf y gamp yn America.
 
A gyda Chwpan Rygbi'r Byd yn cyrraedd yr Unol Daleithiau yn 2031, mae’r pwyslais ar ddatblygu’r gêm yn gryfach nag erioed.
 
Un sy’n adnabod y gynghrair yn dda yw mab un o’r Cymry enwocaf un i chwarae rygbi. 
 
Yn ôl Rhys Edwards, mab Gareth Edwards, sy'n gynhyrchydd a chyfarwyddwr blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y gem.
Image
Rhys Edwards
Rhys Edwards
 
"Ry'n ni 'di cael bach o ddylanwad yn y gynghrair dros y blynyddoedd. Ma' chwaraewyr wedi dod mas i chwarae yma. Blwyddyn ar ôl blwyddyn ma' mwy o bobl yn dod at y gêm i wylio yn y stadiwm a hefyd ar y teledu. Felly mae'n cadw tyfu sy'n neis i weld wrth gwrs gyda Chwpan y Byd rownd y gornel," meddai. 
 
Mae'n brofiad arbennig bod wrth y llyw yn y sedd fawr yn cyfarwyddo: "Oedd e'n bleser mawr. Oedd e mor neis i weld nhw'n dathlu Cymru, fel gwlad a fel gwlad rygbi yn enwedig. Felly oedd e'n bleser mawr i fi."
 
Wrth i rygbi barhau i dyfu yn America, mae’n amlwg, hyd yn oed filoedd o filltiroedd o adref, bod dylanwad Cymru yn parhau’n gryf.
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.