‘Siarad Cymraeg’ wrth i’r Prif Weinidog newydd gadeirio ei gyfarfod Cabinet cyntaf
‘Siarad Cymraeg’ wrth i’r Prif Weinidog newydd gadeirio ei gyfarfod Cabinet cyntaf
Mae aelod o lywodraeth newydd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wedi dweud nad yw’n bwriadu siarad unrhyw iaith ond y Gymraeg yn y Cabinet.
Roedd Dr Dafydd Trystan Davies, y Gweinidog Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, yn siarad cyn i’r Cabinet gyfarfod am y tro cyntaf ddydd Llun.
Mae pob aelod o gabinet cyntaf Plaid Cymru yn gallu siarad Cymraeg.
“Dydyn ni heb gael trafodaeth benodol, ond fel ych chi’n gwybod yn iawn, Cymraeg yw’n iaith gyntaf i,” meddai Dafydd Trystan Davies wrth Radio Cymru.
“Does gen i ddim bwriad penodol i gyfrannu at y Cabinet mewn unrhyw iaith ag eithrio'r Gymraeg.”
Wrth ateb a fyddai hynny yn newid i bobl eraill oedd yn gweithio o fewn y llywodraeth, dywedodd: “O yn sicr iawn.
“Ond mae yna rywbeth hyfryd eisoes o gael sgyrsiau gyda phobl sy’n siaradwyr newydd ac yn ddysgwyr yn y llywodraeth sy’n dymuno ymarfer eu Cymraeg nhw.
“Fy neges i iddyn nhw yw, wel, trïwch e mas. Os ydw i’n gallu eu cefnogi nhw ar eu taith i fod yn fwy rhugl, da hynny yn de?
“Mae’n newid yn Llywodraeth Cymru wrth reswm ond os ydyn ni am greu cenedl ddwyieithog mae’n gyfrifoldeb arnon ni i ddangos esiampl a chefnogi’r rheini sy’n dymuno datblygu eu sgiliau nhw.”
'Un tîm'
Cafodd Rhun ap Iorwerth ei gadarnhau yn swyddogol yn Brif Weinidog newydd Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf.
Ddydd Mercher diwethaf, fe gyhoeddodd pa ASau Plaid Cymru fydd yn aelodau o'i gabinet cyntaf.
Ym maniffesto ei blaid yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Plaid Cymru mai eu blaenoriaethau oedd torri amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd, cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant, codi safonau mewn addysg, datgloi potensial economi Cymru a cheisio sicrhau bargen decach gan San Steffan,
Cyn y cyfarfod Cabinet, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae’r Llywodraeth hon yn llywodraeth weithredol, yn llywodraeth i bawb ac yn llywodraeth sy’n dod â syniadau newydd. Mae'r gwaith caled bellach wedi dechrau.
"Fel Prif Weinidog, rwy’n benderfynol o roi diwedd ar weithio ar wahân a dileu dyblygu diangen ar draws y llywodraeth. Bydd y Cabinet hwn yn gweithio fel un tîm, gyda gweinidogion yn gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru.
"Mae pobl Cymru yn disgwyl llywodraeth sy’n gwrando, sy’n sefyll dros Gymru ac sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniadau. Dyna’n union y mae’r Cabinet hwn yn benderfynol o’i wneud."
Dyma restr aelodau ei gabinet:
- Prif Weinidog – Rhun ap Iorwerth
- Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb – Sioned Williams
- Gweinidog Cabinet dros Gyllid – Elin Jones
- Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon – Heledd Fychan
- Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad – Dafydd Trystan Davies
- Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal – Mabon ap Gwynfor
- Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni – Adam Price
- Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg – Anna Brychan
- Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd – Llŷr Gruffydd
- Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Siân Gwenllian
- Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol – Nerys Evans
- Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod – Delyth Jewell
- Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth – Mark Hooper
- Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol – Cefin Campbell
- Darpar Gwnsler Cyffredinol – Elfyn Llwyd
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn "hyderus y bydd y Cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i'r ffordd mae ein cenedl yn cael ei harwain".
'Hollbwysig'
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r datblygiad ond yn galw ar y llywodraeth i ddiweddaru'r polisi ar ddefnydd o'r Gymraeg yn fewnol yn y Llywodraeth.
Dywedodd Siân Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd, Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn croesawu ymrwymiad Dafydd Trystan Davies, y Gweinidog dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, i ddefnyddio’r Gymraeg yn unig yng nghyfarfodydd y Cabinet.
"Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y Cabinet cyfan yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi’r cwbl, mae dyblu defnydd bob dydd o’r iaith yn un o brif amcanion strategaeth iaith y Llywodraeth, ac mae esiampl ein harweinwyr gwleidyddol yn hollbwysig yn hynny o beth.
"Dydy’r polisi ar ddefnydd o’r Gymraeg yn fewnol yn y Llywodraeth ddim wedi ei ddiweddaru ers 2020. Gyda dyfodiad llywodraeth newydd lle mae pob aelod o’r cabinet yn siarad Cymraeg, mae’r sefyllfa wedi ei gweddnewid. Mae’n amserol diweddaru’r polisi hwn felly a’i wneud yn llawer mwy uchelgeisiol.
"Gallai’r Llywodraeth hefyd greu cynsail ar gyfer y Senedd gyfan. Hyd yma, mae defnydd o’r Gymraeg yn y Siambr ac mewn cyfarfodydd pwyllgor wedi bod yn gyson isel, ac rydyn ni am weld hynny’n newid.
"Gobeithiwn weld gweinidogion yn gosod esiampl, ac mae angen ei gwneud yn haws hefyd i Aelodau ddysgu’r Gymraeg a dod yn fwy hyderus yn eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Er mwyn i’r Gymraeg ffynnu, rhaid mynd ati i’w defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd – gartref, yn y gweithle ac yn y gymuned. Mae hynny yn cynnwys hybu ei defnydd yng nghyfarfodydd y Cabinet a’r Llywodraeth yn ehangach.
“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weld cynnydd yn nefnydd y Gymraeg o fewn ein gweithle yn ein strategaeth fewnol i hyrwyddo’r Gymraeg, Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd, a byddwn yn cyhoeddi fersiwn newydd o’r strategaeth dros y misoedd nesaf.”
