Elusen yn rhybuddio am brinder gofalwyr maeth yng Nghymru
17/05/2026Elusen yn rhybuddio am brinder gofalwyr maeth yng Nghymru
Mae elusen yn rhybuddio am brinder gofalwyr maeth yng Nghymru.
Mae’r elusen Rhwydwaith Maethu yn dweud bod angen 400 o ofalwyr maeth ychwanegol i leddfu’r pwysau cynyddol ar deuluoedd sy’n darparu gofal ledled Cymru.
Dwedodd Elizabeth Bryan, cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru, nad oedd gofalwyr maeth yn cael digon o gefnogaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith.
“Mae lot o bobl yn gadael y broses oherwydd nad oedden nhw yn teimlo fel eu bod nhw yn cael y gefnogaeth na’r adnoddau oedd angen arnynt.
“Mae llawer o waith wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i fuddsoddi a gwella'r system recriwtio gofalwyr maeth, ond mae angen edrych ar sut ydyn ni yn cadw gafael ar y gofalwyr sydd gyda ni yn barod.
"Mae mwy yn gadael y system nag sydd yn dod i mewn.”
Gostyngiad
Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru mae nifer y gofalwyr maeth yn Nghymru wedi gostwng, a mae angen mwy na 400 o ofalwyr maeth i lewnwi’r bwlch yn Nghymru.
Yn ôl Rhwydwiath Maethu mae’r gostyngiad yma wedi bod yn batrwm cyson ar draws Cymru ers 2021, tra bod nifer y plant sydd yn dod i mewn i’r system ofal yn cynyddu.
“Mae angen edrych ar y cymorth maen nhw’n cael, yn feddyliol ac emosiynol, a sicrhau eu bod nhw yn cael eu hadnabod a’u hystyried fel arbenigwyr yng ngofal y plentyn,” ategodd Elizabeth Bryan.
“Mae gofalwyr maeth yn aml yn teimlo fel nad ydy eu barn yn cael eu gwerthfawrogi pan mae’n dod i feddwl am les y plentyn sydd yn eu gofal. Mae angen sicrhau bod yr awdurdodau yn gwrando ar eu lleisiau nhw yn ogystal.”
Mae Elizabeth yn poeni am yr effaith mae nifer gostyngol o ofalwyr yn ei gael ar blant o fewn y system ofal, yn enwedig gan fod rhaid symud plant i ffwrdd o’u cymunedau gwreiddiol yn aml.
“Mae plant yn cael ei rhoi yn y lleoliadau sydd ar gael, nid o reidrwydd y lleoliadau sydd orau iddyn nhw.
“Pan nad oes y niferoedd ar gael, mae rhaid gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar gadw'r plentyn yna yn saff. Dyna'r peth pwysicaf.”
Yn ôl ystadegau gan Lywodraeth Cymru mae dros 7,200 o blant yn y sytem gofal ar draws Cymru, a dim ond 3,538 o ofalwyr maeth wedi’u cofrestru yma.
'Newid ein bywyd er y gwell'
Mae Angharad Clwyd, 47 oed (uchod) wedi bod yn maethu gyda'i gwr Llŷr am 11 o flynyddoedd.
“Roeddwn ni wastad eisiau helpu eraill," meddai.
"Roeddwn ni yn teimlo fel bod maethu yn alwad. Roedd e yn fwy nag rhywbeth roeddwn ni eisiau ei wneud, roedd e yn rhywbeth roedd rhaid i mi ei wneud.”
Mae Angharad yn cyfarfod gyda theuluoedd a rhieni maeth lleol yn aml, ac yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gael rhwydwaith i’ch cefnogi.
“Mae’n gallu bod yn waith unig,” eglurodd.
“Mae’n braf gallu siarad gyda phobl sydd wedi byw trwy’r un profiad a gwir yn deall. Mae’n gallu bod yn help mawr, a da ni yn aml yn dysgu wrth ein gilydd.”
Mae Angharad yn disgrifio’r broses fel un hynod o bositif iddi hi a’i theulu, ac eisiau annog mwy o bobl i ystyried maethu.
“Mae gymaint o angen allan yna," meddai. "Gallwch chi newid bywyd rhywun.
“Rydych chi’n gweld y plant yn datblygu ac yn dod yn fwy hyderus… Da chi methu rhoi pris ar y profiad yna.”
'Cefnogaeth yn hynod o bwysig'
Mae Meleri Williams, 33 oed, wedi bod yn maethu am bum mlynedd.
“Doeddwn ni ddim yn deall faint o angen oedd allan yna," meddai.
"Ond drwy’r broses hon dwi wedi sylwi hefyd faint o bobl dda sydd yn y gymuned sydd yn fodlon helpu, ac mae hynny wedi bod yn braf iawn i weld."
Mae hi yn nodi fod ei phrofiad wedi bod yn un positif, a'i bod hi wedi cael llawer o gymorth a hyfforddiant i helpu hi i baratoi am y profiad o faethu.
“Mae’n gallu bod yn anodd achos mae plant yn dod atoch chi hefo trawma neu anghenion gwahanol, ac mae’r hyfforddiant yn helpu chi i ddeall sut i ddelio gyda hwnna a sut yw’r ffordd gorau i helpu’r plentyn," meddai.
Mae Meleri yn cwrdd yn aml gyda gofalwyr maeth araill o’r ardal, ac mae’n nodi pwysigrwydd y gymuned honno.
“Maen nhw yn deall y broses, yr heriau, a rhai o’r anghenion sydd gan blant sy’n cael eu maethu, ac felly da ni yn gallu helpu ein gilydd," meddai.
Mae Mai 11 - 24 yn bythefnos codi ymwybyddiaeth dros faethu plant. Dywedodd Elizabeth Bryan o Rhwydwaith Maethu eu bod nhw am ‘uwcholeuo gwirionedd maethu’.
