Carcharu dyn o Gaerdydd am ddynladdiad wedi ymosodiad tu allan i dafarn yng Nglyn Ebwy

Kyle O'Callaghan
Kyle O'Callaghan

Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am ddynladdiad ar ôl ymosod ar ddyn o Dredegar y tu allan i dafarn yng Nglynebwy.

Fe blediodd Kyle O’Callaghan, 30 oed, yn euog i ddynladdiad Marcus Lee Carpenter, 37 oed, a fu farw yn dilyn yr ymosodiad ar Stryd Bethcar ym mis Chwefror.

Yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener, fe gafodd ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner o garchar, gyda chyfnod o bedair blynedd ar drwydded estynedig.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i dafarn The Picture House yng Nglynebwy tua 00.20 ddydd Sadwrn 21 Chwefror ar ôl i barafeddygon adrodd bod dyn wedi dioddef ymosodiad y tu allan i'r dafarn.

Fe gafodd Mr Carpenter ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw o'i anafiadau.

Image
Marcus Carpenter
Bu farw Marcus Carpenter o Dredegar yn dilyn yr ymosodiad

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, fe gafodd O’Callaghan ei arestio wrth geisio dringo allan o ffenestr tŷ yn Llanrhymni yng Nghaerdydd.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Neil Blyth o Heddlu Gwent: "Hoffwn roi teyrnged i ffrindiau a theulu Mr Carpenter a ddangosodd gryfder ac urddas mawr drwy gydol yr ymchwiliad hwn.

"Rwy’n gwybod na fydd dedfrydu O’Callaghan heddiw byth yn dod â Mr Carpenter yn ôl. 

"Ond rwy’n gobeithio y gall y canlyniad hwn roi rhywfaint o gyfiawnder i deulu’r dioddefwr a’u galluogi i ddechrau ailadeiladu eu bywydau."

Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned leol a wnaeth ddarparu "tystiolaeth hanfodol" i'r heddlu.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.