Newyddion S4C

Gwahardd Rob Roberts o’r Blaid Geidwadol am 12 wythnos

08/09/2021
Rob Roberts
Rob Roberts

Mae Aelod Seneddol a wnaeth aflonyddu aelod o’i staff yn rhywiol wedi cael ei wahardd o’r blaid am 12 wythnos.

Mae Rob Roberts, sy’n Aelod Seneddol dros Delyn, wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo ers i'r Panel Arbenigol Annibynnol ddod i'r casgliad ei fod wedi torri polisi Seneddol ar gamymddwyn rhyw ym mis Mai.

O ganlyniad i hyn, fe gafodd ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am chwe wythnos a cholli ei statws fel Aelod Seneddol Ceidwadol.

Serch hynny, roedd wedi parhau yn aelod o’r blaid wedi hynny.

Fe ddechreuodd waharddiad yr AS o’r blaid ar 9 Awst – gyda’r newyddion wedi ei gadw yn gyfrinachol gan y Blaid Geidwadol er mwyn i Mr Roberts gael amser i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Ond, yn dilyn ymholiadau gan y wasg, fe wnaeth y blaid gadarnhau ddydd Mercher bod Mr Roberts wedi ei wahardd.

Llun: Senedd y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.