Araith y Brenin: Pwyslais ar undod mewn cyfnod o newid

Charles

Mae’r Brenin Charles wedi defnyddio ei araith swyddogol yn Senedd y DU ddydd Mercher i bwysleisio pwysigrwydd "undod, sefydlogrwydd a gwasanaeth cyhoeddus" mewn cyfnod o newid gwleidyddol ac economaidd sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig.

Wrth annerch aelodau o Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn San Steffan fore Mercher, dywedodd y Brenin fod cymunedau ledled y DU “yn wynebu heriau mawr”, gan gynnwys costau byw uchel, pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a’r angen i adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion.

Fe ddechreuodd araith y Brenin gyda rhybudd fod Llywodraeth y DU yn wynebu cyfnod “peryglus ac anwadal”, gyda gwrthdaro rhyngwladol, pwysau economaidd a newidiadau geopoliticaidd fydd yn effeithio ar fywydau pobl ledled Prydain.

Cyfeiriodd y Brenin at bwysigrwydd “hunaniaethau cenedlaethol cryf” o fewn y Deyrnas Unedig, a’r angen i wrando ar gymunedau lleol wrth lunio polisïau’r dyfodol, gyda phwyslais hefyd ar ddiogelu diwylliant, treftadaeth ac ieithoedd brodorol yn y DU. 

Er na soniwyd yn benodol am Gymru nac am y Gymraeg yn ystod yr araith, roedd y neges ehangach am werth traddodiadau y cenedlaethol yn glir, ac fe fydd disgwyl i weinidogion newydd yng Nghaerdydd bwyso am gyfran deg o unrhyw fuddsoddiad newydd ar lefel y DU, fel fod Cymru yn elwa o unrhyw fuddsoddiad ehangach.

Fe ddywedodd bod y llywodraeth wedi addo bwrw ymlaen â chynlluniau mawr i ddatblygu seilwaith ledled y DU, gan gynnwys trafnidiaeth, ynni a phrosiectau adeiladu strategol. 

Cyhoeddwyd hefyd y bydd biliau newydd yn cael eu cyflwyno i ddiwygio’r heddlu, y GIG a’r system cyfiawnder troseddol, fel bod gwasanaethau’n "gweithio’n fwy effeithiol."

Daeth yr araith ar adeg sensitif yn wleidyddol, gyda llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd yn wynebu cwestiynau anodd dros yr economi, y gwasanaeth iechyd cenedlaethol a dyfodol y berthynas rhwng gwledydd y DU.

Un o’r elfennau mwyaf arwyddocaol yn yr araith oedd ymrwymiad y llywodraeth i gyflwyno bil newydd gyda’r nod o gryfhau cysylltiadau rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd. 

Daw hynny flynyddoedd ar ôl Brexit, ac mae’n adlewyrchu ymgais i ailadeiladu perthynas agosach gyda gwledydd Ewrop mewn meysydd fel masnach, diogelwch ac ymchwil.


 

 


 

 


 

 


 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.