Môn: Teyrngedau i ddyn busnes lleol a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn busnes o Fôn a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur nos Fawrth.
Cafodd dyn ei arestio wedi'r gwrthdrawiad rhwng car llwyd Jaguar I-Pace a beic modur gwyn ar ffordd yr A5025 yn Llanfachraeth.
Mae'r dyn a fu farw yn y digwyddiad wedi'i enwi'n lleol fel Sean Chamberlain, 60 oed, o Gemlyn, ger Cemaes.
Roedd Mr Chamberlain yn gyfarwyddwr ar sawl busnes ar yr ynys, gan gynnwys Garej Brookside a Gwesty Gadlys yng Nghemaes, a Central Garage yn Amlwch.
Mewn datganiad a gafodd ei rhannu ar gyfrif Facebook Garej Brookside, dywedodd ei dad, John Chamberlain: "Gyda thristwch mawr rwyf yn cadarnhau colled drasig fy mab Sean, gŵr cariadus i Debbie a thad ymroddedig i Katy, Emma, Jack a Ceri.
"Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Dywedodd Central Garage mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol: "Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf i ffrindiau a theulu Sean.
"Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i bob un ohonom sydd wedi gweithio gyda Sean ers sawl blwyddyn ac yn ei ystyried nid yn unig yn fos i ni ond ffrind hefyd."
Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 19:00 i'r digwyddiad yn Llanfachraeth.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw hefyd ond roedd gyrrwr y beic modur wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn cefnogi teulu'r dyn sydd wedi marw.
Cafodd dyn ei arestio ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.
