Cyn-Aelod o’r Senedd yn derbyn gofal lliniarol ar ôl diagnosis o sepsis difrifol
Mae Caroline Jones, sy'n gyn-Aelod o’r Senedd yn derbyn gofal lliniarol ar ôl cael diagnosis o sepsis difrifol, yn ôl neges ar blatfform Facebook gan ei gŵr.
Yn ôl Mr Alun Williams, mae cyflwr Ms Jones wedi datblygu’n “sydyn iawn”, ac mae’r teulu’n ceisio dod i delerau â’r sefyllfa gan sicrhau ei bod hi’n "gyfforddus ac wedi’i hamgylchynu gan gariad".
Roedd Ms Jones yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholiad y Senedd 2026 yr wythnos ddiwethaf.
Bu’n Aelod o’r Senedd dros ranbarth Gorllewin De Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021.
Cafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2016 fel aelod o UKIP, cyn mynd ymlaen i eistedd fel aelod annibynnol.
Yn ddiweddarach, fe ymunodd â grŵp y Brexit Party/Reform UK cyn arwain grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio — Independent Alliance for Reform — yn y Senedd.
Fe adawodd Ms Jones Reform UK ym mis Ebrill 2026 wedi mynegi “pryderon difrifol” am y ffordd roedd y blaid wedi dewis eu hymgeiswyr, gan gynnwys ymgeiswyr roedd hi’n dweud oedd wedi cael eu “parasiwtio” i mewn o ardaloedd tu allan i Gymru.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ar y pryd, dywedodd: “Cafodd y rhan fwyaf ohonom ein twyllo. Mae gan ein hardal ni ym Mhen-y-bont ar Ogwr brif ymgeisydd o Coventry! Wnes i erioed gytuno â pharasiwtio pobl i mewn.”
Dywedodd Mr Williams fod Ms Jones yn “angerddol am bobl”, a’i bod hi “wastad eisiau helpu eraill”.
“Mae eich negeseuon, eich meddyliau a’ch gweddïau yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gofyn yn garedig am breifatrwydd a dealltwriaeth wrth i ni ganolbwyntio ar fod gyda Caroline a chefnogi ein gilydd,” meddai.
