Teyrnged teulu i 'dad balch' i dri o blant a fu farw mewn gwrthdrawiad

Corey Wright

Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhredegar fore dydd Mercher diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Corey Wright, 34 oed, yn y gwrthdrawiad un car ger fferm Derlwyn am tua 05:35. 

Bu farw yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu, syn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbennigol o Heddlu Gwent, wedi rhyddhau teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel "partner cariadus a thad balch i dri o blant."

"Roedd yn ddyn teulu go iawn oedd yn addoli ei deulu ac yn gweithio'n hynod o galed i ddarparu a chefnogi'r bobl yr oedd yn ei garu fwyaf," medden nhw.

"Roedd ei deulu'n golygu popeth iddo ac roedd yn hynod o falch ohonynt.

"Roedd ganddo chwerthiniad heintus a phersonoliaeth oedd wir yn goleuo pob ystafell yr oedd yn gerdded i mewn iddi...Roedd yn caru treulio amser gyda'i blant, yn enwedig mynd allan ar y beic cwad a chreu atgofion gyda'i gilydd.

"Fe fydd yn cael ei golli'n fawr a'i garu am byth gan bawb gafodd y fraint o'i adnabod."

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.