Ethol Rhun ap Iorwerth yn brif weinidog newydd ar Gymru

rhun ap

Mae Rhun ap Iorwerth wedi ei ethol yn Brif Weinidog Cymru, yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i arwain ym Mae Caerdydd.  

Cafodd ei ethol yng nghyfarfod llawn cyntaf o'r Senedd newydd o 96 o aelodau yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol ei blaid dydd Iau diwethaf.

Roedd y llwybr yn glir i Mr ap Iorwerth gael ei benodi'n Brif Weinidog wedi i'r Blaid Werdd ddweud y byddai eu dau aelod yn y Senedd yn pleidleisio o blaid ei ethol yn arweinydd Cymru.

A chafodd Plaid Cymru gefnogaeth y Gwyrddion fel y disgwyl yn y bleidlais brynhawn Mawrth.  

Penderfynodd y Blaid Lafur a Jane Dodds, unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol ymatal.

Fe gynigiodd Reform UK enw eu harweinydd yng Nghymru, Dan Thomas i fod yn Brif Weinidog. 

Cynigiodd y Ceidwadwyr Cymreig enw eu harweinydd nhw, Darren Millar. 

Ond gan nad oedd digon o niferoedd ymysg Reform UK a'r Ceidwadwyr, doedd dim modd i hynny lwyddo. 

Gan nad oes gan Blaid Cymru fwyafrif, gyda 43 aelod, mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y bydd yn arwain llywodraeth leiafrifol a chwilio am gefnogaeth gan bleidiau eraill, pan fydd angen hynny.

"Gwylaidd" 

Wedi iddo gael ei ethol, cododd ar ei draed yn y Siambr, a dywedodd mai braint ei fywyd oedd cael ei ethol yn brif weinidog.

"Dwi’n dechrau’r daith yn wylaidd, yn ddyledus i gefnogaeth a chariad fy nheulu sydd yma heddiw" meddai. 

"A fy Mam sydd â’i dylanwad arna i gymaint ag erioed, ag i ffrindiau a chydweithwyr, a dwi yn ysu i ad-dalu yr ymddiriedaeth ma’ pobl Cymru wedi ei roi ynddo ni, ag i wireddu y newid y mae pobl wedi datgan mor glir y maen nhw am ei weld."

Wedi araith Rhun ap Iorwerth, cafodd arweinwyr y pleidiau eraill gyfle i ddweud gair. 

Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas ei fod yn dymuno'n dda i'r llywodraeth newydd a'i fod yn disgwyl gweld canlyniadau yn yr ymdrechion i ostwng rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd ac ym maes yr economi. Ychwanegodd y bydd yn arwain "gwrthblaid rymus."  

Dywedodd arweinydd dros dro Plaid Lafur Cymru, Ken Skates fod colled ei blaid yn ei dristáu yn fawr. Rhoddodd deyrnged i'r aelodau Llafur sydd heb ddychwelyd i'r Siambr yn cynnwys y cyn- Brif Weinidog Eluned Morgan, a weithredodd gydag "urddas ar adeg anodd," meddai.

Nododd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar fod gan Rhun ap Iorwerth "dasg anferthol o'i flaen" 

"Mae'r mis mêl ar gyfer eich plaid yn mynd i fod yn un byr," rhybuddiodd. 

Magwraeth  

Y gwleidydd cyntaf o Blaid Cymru i arwain y llywodraeth yng Nghymru, cafodd Rhun ap Iorwerth ei eni yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf ym mis Awst 1972. 

Roedd ei rieni Edward Morus Jones a Gwyneth Jones yn athrawon, yn ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg, a'i dad hefyd yn cyd-ganu gyda Dafydd Iwan.

Symudodd y teulu i ardal Dolgellau am gyfnod cyn ymgartrefu ar Ynys Môn yn ddiweddarach.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llandegfan ac yna yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy cyn iddo astudio gwleidyddiaeth a'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl gadael y coleg aeth i weithio fel gohebydd gwleidyddol i BBC Cymru yn San Steffan yn 1994.

Fe gafodd ei benodi'n brif ohebydd gwleidyddol y gorfforaeth yn 2001.

Cefnodd Rhun ap Iorwerth ar newyddiaduraeth yn 2013 wedi i gyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, roi'r gorau i gynrychioli Ynys Môn yn y Cynulliad, fel yr oedd y Senedd yn cael ei galw ar y pryd.

Daeth Mr ap Iorwerth yn fuddugol gyda mwyafrif sylweddol yn yr is-etholiad ac fe lwyddodd i gadw ei afael ar y sedd yn yr etholiad yn 2016.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dechrau yn ei rôl yn Brif Weinidog Cymru.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.