Nifer fwyaf erioed o blant ifanc yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew
Mae data newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn dangos bod 27.3% o blant pedair a phump oed yng Nghymru yn byw dros bwysau neu’n ordew.
Daw’r ffigyrau swyddogol diweddaraf gan Raglen Mesur Plant, ICC, sy’n cofnodi taldra a phwysau plant mewn dosbarthiadau Derbyn ledled Cymru.
Mae’r data’n seiliedig ar 28,512 o blant, sef 94.7% o blant pedair a phump oed yng Nghymru.
Roedd 12.8% o blant yn byw gyda gordewdra yng Nghymru, o’i gymharu â 10.5% yn Lloegr ac 11.8% yn yr Alban.
Yn ôl ICC, mae’r data’n tynnu sylw at gysylltiad clir ag amddifadedd. Roedd cyfran y plant oedd yn byw gyda gordewdra yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 15.6%, o’i gymharu ag 8.9% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd Blynyddoedd Cynnar yn ICC, “Mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu pa mor bwysig yw'r blynyddoedd cynnar i blant.
“Gwyddom fod gan Gymru uchelgeisiau cryfion i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac mae’r data hyn yn ein helpu i ddangos ble y gall ymdrech ar y cyd wneud y gwahaniaeth mwyaf.”
Dywedodd Ms Bath fod y sylfeini ar gyfer pwysau iach “yn cael eu gosod o feichiogrwydd drwodd i ddechrau yn yr ysgol”, ac y gall cefnogi twf iach yn gynnar helpu i leihau anghydraddoldebau.
Dywedodd hefyd nad yw’r data yn ymwneud â rhieni sydd â “diffyg gwybodaeth a chymhelliant”.
Yn hytrach, meddai, mae llawer o deuluoedd eisiau gwneud eu gorau i’w plant, ond bod yr amgylchedd o’u cwmpas yn gallu gwneud dewisiadau iach yn anoddach.
“Mae creu'r amodau lle mae'r dewis iach yn ddewis hawdd yn gofyn am gamau cydgysylltiedig ar draws iechyd, bwyd, gofal plant, manwerthu, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.
Yn ôl ICC, mae gwaith ar y gweill gyda phartneriaid i edrych ar ddarpariaeth bwyd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, yr amgylchedd bwyd babanod mewn siopau, a’r rhwystrau mae rhieni’n eu hwynebu mewn cymunedau.
Mae Arweinydd Cenedlaethol Bwydo ar y Fron parhaol hefyd wedi’i benodi i roi arweiniad cenedlaethol yn y maes.
Dywedodd Ms Bath fod gan ICC gyngor a chanllawiau i rieni ar gael drwy adnoddau digidolar gyfer plant hyd at saith oed