Teyrnged teulu i 'fab a phartner cariadus' a fuodd farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili
Mae teulu dyn 44 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili ddydd Llun diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd swyddogion o Heddlu Gwent a pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i'r gwrthdrawiad am tua 14:35 ar 4 Mai.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur ar ffordd yr A472 yn Hafodyrynys.
Fe fuodd Andrew 'Buzz' Edwards farw yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Gwên 'goleuo pob ystafell'
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd Andrew yn fab, partner, brawd, llys-tad a thad-cu cariadus oedd yn dod â llawenydd, chwerthin a chynhesrwydd i bawb a oedd yn ddigon ffodus i’w adnabod.
"Roedd ganddo wên oedd yn goleuo pob ystafell ac awch am fywyd oedd yn wirioneddol heintus.
"Roedd Andrew yn caru ei deulu yn fawr ac roedd hapusaf wedi ei amgylchynu gan y rhai yr oedd yn ei garu fwyaf.
"Roedd ganddo angerdd am geir cyflym, gwyliau, bwyd da a chymryd lluniau o'n holl anturiaethau gyda'n gilydd. Yn fwy diweddar, fe ddaeth yn angerddol iawn dros ei feic modur.
"Roedd pawb oedd yn cyfarfod Andrew yn ei garu, ac mae ei golled wedi gadael twll enfawr yn ein calonnau ni i gyd na all fyth gael ei lenwi.
"Fe fyddwn ni'n ei fethu bob dydd, ond fe fyddwn ni'n parhau i fyw ein bywydau mor llawn ag y gallwn - yn union fel y byddai wedi dymuno."
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600138341.