Yr aelodau o’r Senedd a gollodd eu seddi yn yr etholiad
Mae’r Senedd bellach wedi ehangu o 60 o aelodau i 96, ond er bod mwy o le ar eu cyfer nhw fe wnaeth 16 o’r aelodau a safodd eto eleni golli eu seddi.
Dyma’r rhestr o Aelodau’r Senedd a safodd eto yn 2026, ond na lwyddodd i ddychwelyd i’r Siambr.
Collodd Llafur wyth aelod, collodd y Ceidwadwyr bump, Plaid Cymru un, ac roedd dau annibynnol blaenorol hefyd allan o’r Senedd.
1. Eluned Morgan - Llafur Cymru
Dyma’r tro cyntaf erioed i Brif Weinidog fethu a chael ei ail ethol. Ar ôl bod yn aelod o restr Canolbarth a Gorllewin Cymru am ddegawd, safodd Eluned Morgan yng Ngheredigion Penfro, oedd yn un o’r etholaethau lleiaf ffafriol i Lafur a methodd â sicrhau sedd yno.
2. Alun Davies - Llafur Cymru
Daeth gyrfa hir Alun Davies yn y Senedd i ben yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni. Roedd wedi bod yn Aelod o’r Senedd ers 2007, ond methodd o drwch blewyn â dychwelyd wrth i Lafur fethu ag ennill yr un sedd yn yr etholaeth.
3. Rhianon Passmore - Llafur Cymru
Safodd Rhianon Passmore yn etholaeth Casnewydd Islwyn, ond dim ond un sedd a enillodd Llafur yno - gyda Jayne Bryant ar frig y rhestr. Dyna ddiwedd ar ddegawd yn y Senedd i Rhianon Passmore.
4. Buffy Williams - Llafur Cymru
Roedd Buffy Williams wedi ennill sedd y Rhondda oddi ar Leanne Wood yn 2021. Roedd hi ar restr Llafur yn Afan Ogwr Rhondda, ond dim ond y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies a ddychwelodd i’r Senedd dros Lafur yn yr etholaeth honno.
5. David Rees - Llafur Cymru
Yn yr un etholaeth, Afan Ogwr Rhondda, methodd David Rees, Dirprwy Lywydd y Senedd, hefyd â chadw’i le ar ôl bod yn y Senedd ers 2011.
6. Hannah Blythyn - Llafur Cymru
Roedd Hannah Blythyn yn fwyaf enwog am gael ei diswyddo o gabinet Vaughan Gething ynghanol ei drafferthion fel Prif Weiniog. Safodd yn etholaeth Clwyd fel prif ymgeisydd Llafur, ond ni chafodd ei hethol a gadawodd y Senedd wedi degawd yno.
7. Carolyn Thomas - Llafur Cymru
Roedd Carolyn Thomas hefyd ar restr Llafur yn etholaeth Clwyd, ond methodd â dychwelyd i’r Senedd. Fe aeth y seddi yno i Reform UK, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig.
8. Jack Sargeant - Llafur Cymru
Fe etholwyd Jack Sargeant mewn is-etholiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2018 ar ôl marwolaeth ei dad Carl Sargeant. Safodd yn Fflint Wrecsam, ond Ken Skates oedd yr unig ymgeisydd Llafur i ennill sedd yno. Cipiodd Reform UK a Phlaid Cymru ddwy sedd yr un, gyda Sam Rowlands o’r Ceidwadwyr yn cael y llall.
9. Joel James - Y Ceidwadwyr Cymreig
Safodd Joel James yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, ond ni lwyddodd y Ceidwadwyr i ennill sedd yn yr etholaeth honno. Aeth y seddi i Blaid Cymru, Reform UK, Llafur a’r Blaid Werdd. Gadawodd Joel James y Senedd ar ôl pum mlynedd yno.
10. Gareth Davies - Y Ceidwadwyr Cymreig
Yn arall oedd wedi bod yn y Senedd am dymor yn unig. Yn etholaeth Clwyd, roedd Gareth Davies yn un o’r Ceidwadwyr a safodd eto. Darren Millar oedd yr unig Geidwadwr a etholwyd yn yr etholaeth.
11. Samuel Kurtz - Y Ceidwadwyr Cymreig
Safodd Samuel Kurtz yng Ngheredigion Penfro, ond Paul Davies oedd yr unig Geidwadwr i ennill sedd yno. Roedd hynny’n golygu colli sedd i Kurtz, oedd wedi cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ers 2021.
12. Tom Giffard - Y Ceidwadwyr Cymreig
Ar ôl pum mlynedd yn y Senedd, safodd Tom Giffard ar restr y Ceidwadwyr yn etholaeth Gŵyr Abertawe, ond ni chafodd ei ethol. Fe aeth y seddi yno i Blaid Cymru, Reform UK a Llafur.
13. Altaf Hussain - Y Ceidwadwyr Cymreig
Methodd Altaf Hussain â chadw’i le yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg. Andrew RT Davies oedd yr unig un i gael ei ethol dros y Ceidwadwyr yno.
14. Luke Fletcher - Plaid Cymru
Er gwaethaf llwyddiant i Blaid Cymru yn genedlaethol, ni ddychwelodd Luke Fletcher i’r Senedd. Safodd yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg, lle enillodd Plaid Cymru ddwy sedd - un i Mark Hooper a’r llall i Sarah Rees.
15. Rhys ab Owen - Annibynnol
Safodd Rhys ab Owen fel ymgeisydd annibynnol yn etholaeth Caerdydd Penarth ar ôl cael ei ethol dros Blaid Cymru yn 2021. Cafodd ei atal yn ddiweddarach o’r blaid. Ni chafodd ei ethol gan ennill 414 o bleidleisiau yn unig.
16. Russell George - Annibynnol
Safodd Russell George fel ymgeisydd annibynnol yn etholaeth Gwynedd Maldwyn ar ôl cael ei ethol yn wreiddiol fel Ceidwadwr ac yna wynebu cael ei atal o’r blaid. Ni chafodd ei ethol ond fe enillodd 2,862 o bleidleisiau.