'Fy nghalon yn y Cymoedd': Dysgwraig o America yn dychwelyd i anrhydeddu hen fodryb
Mae dysgwraig o America wedi dychwelyd i’r Rhondda i weld cerflun o’i hen fodryb, Elizabeth Andrews, yn cael ei ddadorchuddio ddydd Iau.
Bydd Maura High yn bresennol yn y seremoni ym Mharc Treftadaeth y Rhondda, ynghyd â’i merch a’i hwyres.
Hwn fydd y pumed cerflun a’r olaf i gael ei ddadorchuddio fel rhan o brosiect Monumental Welsh Women.
Elizabeth Andrews oedd trefnydd benywaidd cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru, a bu’n ymgyrchu dros lowyr a’u teuluoedd.
Dywedodd Maura High wrth Newyddion S4C ei bod yn falch bod gwaith ei hen fodryb yn cael ei gydnabod.
“Mae cymaint o bethau’n llithro’n ôl i hanes ac yn cael eu hanghofio, ac yn aml iawn cyflawniadau menywod sy’n diflannu,” meddai.
“Mae’n braf iawn ei bod hi’n cael ei chofio am yr holl waith a wnaeth.
“Mae yna falchder am ei rhan hi, ond hefyd balchder i’r teulu fod gennym ni rywun y gallwn ni ymfalchïo ynddi.”
Roedd Maura yn 12 oed pan fu farw Elizabeth Andrews, ac mae ganddi atgofion o aros yn ei chartref yn ystod gwyliau’r ysgol.
Roedd Elizabeth yn agos at fam Maura ac, yn ôl Maura, roedd hi fel mam fedydd iddi wrth iddi dyfu i fyny.
“Roedd ganddi silffoedd llawn llyfrau. Roedd fel byw mewn llyfrgell,” meddai.
“Roedd ein teulu ni’n deulu dosbarth gweithiol heb lawer o lyfrau, felly roedd hi’n berson gwahanol iawn.”
Dywedodd Maura fod gwaith Elizabeth yn agos at galon ei theulu, a'i bod hi'n deall yr anawsterau oedd yn wynebu teuluoedd y pyllau glo.
“Roedd hi’n gwneud gwaith yr oeddem ni’n ei ddeall yn ein profiad ni ein hunain,” meddai.
“Roedd y teulu’n gwerthfawrogi’n fawr ei bod hi’n gwneud y gwaith hwnnw dros bawb.”
Mae hi’n gobeithio y bydd y cerflun yn sicrhau nad yw cyflawniadau menywod fel Elizabeth yn cael eu hanghofio, ac yn rhoi cyfle i genedlaethau newydd ddysgu am eu gwaith.
Dysgu Cymraeg
Mae Maura, sy’n byw yng Ngogledd Carolina, hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dechrau pandemig Covid.
Roedd ei mam-gu ac Elizabeth Andrews yn siarad Cymraeg â’i gilydd, ond ni chafodd yr iaith ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
“Mae dysgu Cymraeg yn mynd â fi yn ôl at fy ngwreiddiau, at fy nghyndeidiau ac at y bobl oedd yn siarad yr iaith,” meddai.
“Mae’r cysylltiad emosiynol yn bwysig iawn i fi.”
Mae hi’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg ar-lein, ac mae dau o’i thiwtoriaid yn bwriadu dod i’r seremoni.
Dyma fydd y tro cyntaf iddi eu cyfarfod wyneb yn wyneb.
Dywedodd Maura y bydd y dadorchuddiad yn achlysur emosiynol i’r teulu.
“Bydd yn ddiwrnod na fyddwn ni byth yn ei anghofio, gyda llawer iawn o emosiynau gwahanol,” meddai.
“Dw i wedi teithio llawer dros y blynyddoedd, ond mae fy nghalon dal yn y Cymoedd.”