O Syrffio i Sgrymio: Capten Cymru Bethan Lewis yn awyddus i arwain o'r blaen
O Syrffio i Sgrymio: Capten Cymru Bethan Lewis yn awyddus i arwain o'r blaen
Mae capten Cymru Bethan Lewis yn dweud ei bod yn edrych ymlaen i roi ei "throed orau ymlaen” ac arwain ei gwlad yn erbyn Iwerddon dydd Sadwrn.
Wedi anaf i’r blaenasgellwr Kate Williams, fe gamodd Lewis i’r adwy gan arwain o’r blaen wrth i Gymru lwyddo i hawlio pwynt bonws yn erbyn pencampwyr y byd, Lloegr, bythefnos yn ôl.
Er hynny, colli 62-24 oedd hanes y Cymry ac mae Lewis, a gafodd ei magu yn Abergwili ger Caerfyrddin, yn gofyn i’r tîm godi eu safon unwaith eto.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Lewis, sydd â 63 cap dros ei gwlad: “Mae llawer o hyder ‘di dod o allu sgorio ceisiau yn erbyn y tîm gorau yn y byd, ond mae eisie cadw ‘neud hwnna.
“Y cwpwl o gemau cyn, wnaethon ni ddangos bo ni’n gallu amddiffyn yn dda. Mae eisie’ gwella, ni’n gwybod ‘ny. Ni’n edrych ar ein hunain yn galed, probably yn galetach na’r pobl ar y tu fas.
“Ond mae eisie edrych ar y ddwy ochr, be ni’n neud yn dda, be ni’n gallu gwella. Gwella ar y pethe ni’n neud yn dda a gwella ar y stwff sydd eisie gwella hefyd.”
O syrffio i sgrymio
Bellach yn chwarae dros glybiau Caerloyw-Hartpury a Gwalia Lightning, serennodd mewn sawl gwahanol faes yn ystod ei phlentyndod.
Roedd yn mwynhau chwarae tenis ac athletau pan yn ifanc, a chynrychiolodd Prydain ym Mhencampwriaethau Syrffio Ieuenctid y Byd.
Ond rygbi wastad oedd y gamp oedd o fwyaf o ddiddordeb i Lewis.
Ychwanegodd: “I fod yn deg i fe (dad) a mam, y cyfleoedd oedden nhw di rhoi i fi’n tyfu lan, stwff fel y syrffio.
“Ti’n delio da pwysau achos ti mas yna ar ben dy hun yn y môr, a oni’n stryglo ‘da hwnna i bod yn onest. So cael bod yn rhan o tîm 'nath sticio fi da rygbi.”
Bydd Cymru yn teithio i Belfast i herio’r Gwyddelod nos Sadwrn, ac mae Lewis yn dweud bod yr awch yno i ennill eu gêm gyntaf o’r bencampwriaeth.
“Mae rhoi’r crys coch yna wastad yn rhywbeth fi’n mor prowd o, a cael arwain y tîm ‘da troed gorau ymlaen dros Cymru, yn rhywbeth fi mor falch fi gallu neud.”
Newidiadau
Mae hyfforddwr Cymru wedi gwneud sawl newid i’w dîm i wynebu Iwerddon, gyda Carys Cox yn dychwelyd i ganol y cae i bartneru Courtney Keight.
Mae Hannah Dallavalle wedi’i henwi ar yr asgell, tra bod Branwen Metcalfe yn symud i’r ail reng i bartneru Georgia Evans, fydd yn dechrau ei gêm gyntaf o’r ymgyrch yn y Bencampwriaeth eleni.
Mae Jorja Aiono wedi’i dewis fel blaenasgellwr ochr dywyll a bydd hi’n ymuno â’i chapten Lewis a’r wythwr Bryonie King yn y rheng ôl.
Does dim newid yn rheng flaen Cymru gan bo’r propiau Gwenllian Pyrs a Sisilia Tuipulotu, a’r bachwr Kelsey Jones, yn dechrau eu pedwaredd gêm yn olynol fel uned.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2052346261034975618?s=20
Bydd Keira Bevan yn parhau’n safle’r mewnwr – felly hefyd Lleucu George yn safle’r maswr.
Bydd Hannah Dallavalle a Jasmine Joyce ar yr esgyll a Kayleigh Powell yn gefnwr, yn drindod profiadol iawn.
Os y caiff yr eilydd o asgellwr Nikita Prothero ei galw o’r fainc – bydd hi’n cynrychioli ei gwlad am y tro cyntaf – a hi fyddai pumed cap newydd Cymru yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod 2026.
Yr asgellwr Seren Singleton, y blaenwr Jorja Aiono, a’r canolwyr Jenna De Vera a Freya Bell sydd wedi ennill eu capiau cyntaf hyd yma’n ystod yr ymgyrch eleni.