Yr SNP'n gobeithio ennill pumed tymor hanesyddol yn Holyrood
Mae cyfri'r pleidleisiau ar gyfer Senedd yr Alban yn parhau nos Wener.
Mae'r SNP yn gobeithio am bumed fuddugoliaeth yn olynol.
Byddai canlyniad o'r fath i John Swinney a'i blaid yn gosod record newydd yn hanes Senedd yr Alban.
Ar hyn o bryd, gyda 60 etholaeth eto i'w cyhoeddi, mae gan yr SNP 55 sedd, tra bod gan Lafur yr Alban dair sedd, y Ceidwadwyr, bedair sedd a'r Democratiaid Rhyddfrydol bum sedd. Mae gan Blaid Werdd yr Alban ddwy sedd.
Dylai darlun llawn o'r canlyniadau fod yn glir rywbryd nos Wener - gyda 129 o seddi yn Holyrood ar gael i'w cipio.
O dan system gynrychiolaeth gyfrannol Holyrood, mae 73 o ASau yn cael eu hethol ar gyfer seddi etholaeth ledled y wlad, gyda 56 arall yn cael eu hethol ar wyth pleidlais o'r rhestr ranbarthol.
'Digynsail'
Wrth siarad ychydig cyn i’r cyfrif ddechrau, dywedodd cyn-ysgrifennydd cyllid yr Alban, Shona Robison fod yr SNP yn “obeithiol y byddwn yn ennill yr etholiad am y pumed tro yn olynol, a fyddai’n gwbl ddigynsail”.
Wrth siarad gyda BBC Radio Scotland, ychwanegodd: “Rydym wedi ymladd yn galed yn yr ymgyrch hon ac wedi ymladd dros bob pleidlais - ac mae angen i ni weld beth yw cyfanswm hynny heddiw.”
Dywedodd Liz Lloyd, a oedd yn bennaeth staff i Nicola Sturgeon pan oedd hi'n brif weinidog, y gallai'r SNP orffen yr etholiad gyda bwlch o 30 sedd o'r ail blaid fwyaf.
"Mae'r trawsnewidiad y mae John Swinney wedi'i gymryd â'r blaid, gan sefydlogi'r llong, adfywio holl beirianwaith ymgyrchu'r SNP, i gyrraedd y pwynt lle hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael y mwyafrif, lle maen nhw'n ennill pumed tymor, lle mae ef yn ennill ei fandad cyntaf fel prif weinidog, mae'n beth enfawr," meddai.
"Dydw i ddim yn credu y bydd unrhyw un yn yr SNP, os ydyn nhw ychydig yn brin o fwyafrif, yn meddwl eu bod nhw wedi methu rywsut, os ydyn nhw wedi ennill yr etholiad yn y modd hwnnw."
Dywedodd cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Llafur yr Alban, Alan Roden, fod Anas Sarwar a'i blaid wedi cael tasg "heriol iawn" yn yr ymgyrch etholiadol ar gyfer Holyrood.
Wrth siarad gyda BBC Scotland, dywedodd: "Y prif her yw amhoblogrwydd dwfn Keir Starmer a'i Lywodraeth yn San Steffan."
Llun: PA