Cyhoeddi enwau'r Cymry fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni

Aleighcia Scott, Joe Allen a Heledd Cynwal
Aleighcia Scott, Joe Allen a Heledd Cynwal

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r unigolion fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd eleni.

Bydd y sawl ar y rhestr yn cael eu anrhydeddu yn y Brifwyl yn Llantwd, Sir Benfro am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol.

Ymhlith y rhai fydd yn derbyn y Wisg Werdd mae Aleighcia Scott, y gantores reggae Gymreig-Jamaicanaidd o Gaerdydd sy'n un o'r hyfforddwyr ar raglen Y Llais; a'r canwr a'r actor Ryland Teifi, sy'n wreiddiol o Ffostrasol ond bellach yn byw yn Iwerddon.

Ymhlith y rhai fydd yn derbyn y Wisg Las mae seren pêl-droed dynion Cymru ac Abertawe, Joe Allen, a gynrychiolodd ei wlad 77 o weithiau; capten tîm pêl-droed menywod Cymru, Angharad James o Hwlffordd; a'r chwaraewr dartiau o'r Barri, Dylan Williams, a sefydlodd blatfform Darts Cymru yn 2019.

Bydd y ddarlledwraig a'r gyflwynwraig o Landeilo, Heledd Cynwal, hefyd yn derbyn y Wisg Las, yn ogystal â chyflwynwraig Prynhawn Da a Heno, Mari Grug James, sydd yn llysgennad dros Ymchwil Canser Cymru.

Mae'r anrhydeddau blynyddol yn cael eu rhannu i dri chategori: 

- Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau

- Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl

- Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig

Dyma restr llawn o Urddau'r Orsedd ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las:

Y Wisg Werdd

Eifion Daniels - Blaen-ffos

Ann Siriol Davies - Llantwd 

Catrin Davies - Boncath

Emyr Davies - Aberporth

Malachy Owain Edwards - Llanfairpwll

Carys-Hedd - Llandudoch 

Jo Heyde - Llundain

Jane James - Tyddewi

Wendy Lewis - Boncath

Elin Meek - Abertawe

Bethan Miles - Aberystwyth

Keri Graham Morgan - Cwm Aman 

Meinir Jones Parry - Caerfyrddin

Rhiannon Pritchard - Caerdydd

Eleri Roberts - Henllan Amgoed

Aleighcia Scott - Caerdydd

Ryland Teifi - Ffostrasol ac Iwerddon

Eleri Twynog - Caerdydd a Llanbedr Pont Steffan

Gillian Elisa Thomas - Llanbedr Pont Steffan 

Jane Watts - Llandudoch

Efan Miles Williams - Lledrod

Eiri Thrasher - Llandysul

Y Wisg Las

John Adams-Lewis - Aberteifi

Joe Allen - Arberth

Heledd Cynwal - Llandeilo

Nia Wyn Davies - Llanybydder

Aled Eirug - Caerdydd

Wyn Evans - Cwmfelin Mynach

Meirwen Evans - Cwmfelin Mynach

Neville Evans - Ffos-y-ffin

Jaci Gruffudd - Abertawe

Eluned Hâf - Bro Morgannwg

Angharad James - Hwlffordd

Mari Grug James - Sanclêr 

Wynfford James - Caerfyrddin

Jennifer Jenkins - Aberystwyth

Arwel Jones - Ciliau Aeron

Geraint Herbert Jones - Llanybydder

Heulwen Jones - Caerdydd 

Natalie Jones - Sanclêr

Tegryn Jones - Llangwm

Eurfyl Lewis - Llanglydwen 

Jean Lewis - Meidrim 

Gwenda Mathias - Hermon, y Glog

Rhodri Siôn Morgan - Caerdydd

Steve Perks - Caerfyrddin

Denise Lewis Poulton - Adpar a Llundain

Huw Llywelyn Roberts - Aberystwyth

Glenys Ann Thomas - Caerfyrddin

Hywel Thomas - Penarth

Owen Thomas - Pen-bre

Wyn Thomas - Castellnewydd Emlyn

Dylan Williams - Y Barri

Hubert Alun Williams - Llangyndeyrn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.