Y blychau pleidleisio wedi agor ar gyfer etholiad Senedd Cymru
Mae'r blychau pleidleisio wedi agor ar gyfer Etholiad Senedd Cymru ddydd Iau.
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07.00 a 22.00, ond ni fydd unrhyw ganlyniadau dros nos.
Bydd y cyfrif yn dechrau fore dydd Gwener, ac mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn y prynhawn.
Yn wahanol i Etholiad Cyffredinol y DU, does dim angen cyflwyno dogfen adnabod er mwyn pleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru.
Gall y rhai sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad wneud hynny yn eu gorsaf bleidleisio leol - gallwch ddod o hyd i'ch un chi yma.
Bydd bob pleidleisydd yn cael papur pleidleisio ac un bleidlais ar gyfer y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol y maent eisiau gweld yn cynrychioli yn y Senedd.
Does dim angen mynd â cherdyn pleidleisio - mae modd pleidleisio heb y cerdyn os yw'r unigolyn wedi cofrestru i wneud hynny cyn 20 Ebrill.
Dyma’r tro cyntaf i’r etholiad ddefnyddio system bleidleisio gyfrannol newydd, gydag 16 etholaeth a phob un yn cael eu cynrychioli gan chwe aelod o’r Senedd. Mae hynny’n golygu y bydd 96 o aelodau’n cael eu hethol, o’i gymharu â 60 yn flaenorol.