Newyddion S4C

Angen 'gwelliant ar unwaith’ i ofal babanod newydd-anedig ym Merthyr Tudful

07/09/2021
Gwasanaethau Newyddenedigol a Mamolaeth

Mae angen cyflwyno “gwelliannau ar unwaith” i wasanaeth gofal babanod newydd-anedig mewn ysbyty ym Merthyr Tudful sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn ôl panel annibynnol.

Mae casgliadau cychwynnol y panel yn galw am welliannau i safon cadw dogfennau, gweinyddu meddyginiaethau gyda chymorth y fferyllfa ac elfennau penodol o ymarfer clinigol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Mae hefyd yn galw am sefydlu cynllun cefnogi penodol ar gyfer staff nyrsio gofal babanod newydd-anedig yn yr uned famolaeth yno. 

Cafodd Panel Annibynnol Trosolwg Gwasanaethau Mamolaeth ei sefydlu i oruchwylio gwelliannau i wasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn nifer o fethiannau difrifol yng ngwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd.

Mae gwasanaethau mamolaeth y bwrdd wedi bod mewn mesurau arbennig ers i “fethiannau sylweddol” gael eu nodi dros ddwy flynedd yn ôl.

Daw’r argymhellion diweddaraf yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan yr un panel fis Ionawr ar brofiadau menywod beichiog yn ardal y bwrdd iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dweud eu bod nhw'n croesawu canfyddiadau cychwynnol yr adolygiad ac yn "parhau i weithio ar welliannau parhaus" yn eu gwasanaethau mamolaeth a babanod newydd-anedig.

‘Peri pryder’

Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, ei bod yn ymwybodol y bydd y canfyddiadau yn “anodd” i staff.

Dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n ymwybodol o’r pwysau sy’n wynebu staff ar hyn o bryd, ac nid yw gwasanaethau newyddenedigol yn eithriad – bydd yn anodd iddynt weld y canfyddiadau hyn.

“Fodd bynnag, mae’r panel wedi croesawu gonestrwydd staff yr uned a’u syniadau am yr hyn sydd angen newid.

“Yn yr un modd, er y bydd y canfyddiadau hyn yn peri pryder i deuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth, rwy’n gobeithio y byddant yn gweld bod eu llais a’u cyfraniad yn wirioneddol bwysig ac yn arwain at newid”, ychwanegodd.

Mae’r pwyllgor hefyd yn awgrymu bod angen gweithio “ar unwaith” i ddosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau gyda chymorth y fferyllfa, a gwirio presgripsiynau yn ddyddiol.

Bydd gwaith pellach yn cael ei gwblhau dros y mis nesaf i ddatblygu gweithdrefn safonol, rhestrau gwirio ac archwiliadau fel rhan o’r gwelliannau i weinyddu meddyginiaethau.

Mae archwiliad wedi ei ddechrau er mwyn sicrhau bod babanod sydd angen eu hatgyfeirio i uned drydyddol yn cael eu “trosglwyddo’n brydlon”.

Noda’r pwyllgor hefyd y dylid cynyddu nifer y meddygon ymgynghorol sy’n goruchwylio’r uned a chynyddu’r amser sydd wedi ei neilltuo ar gyfer yr uned, mae un meddyg ymgynghorol ychwanegol i ddechrau ym mis Tachwedd gyda disgwyl i un arall gael ei recriwtio.

Dywedodd Sallie Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn croesawu lefel yr achwilio sydd wedi ei ddarparu gan yr adolygiad hwn, a gyda chefnogaeth IMSOP a Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i weithio ar welliannau parhaus yn ein gwasanaethau mamolaeth a babanod newydd-anedig.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu adborth gwerthfawr hyd yma ond, gan nad yw'r adolygiad wedi ei gwblhau eto, nid yw'n briodol i wneud sylw ar fanylion penodol, ar wahân i bwysleisio ein bod yn parhau'n gwbl ymroddedig i ddarparu'r gofal gorau posib ar gyfer menywod, plant a theuluoedd ar draws cymunedau CTM".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.