Arolwg olaf Survation cyn yr etholiad yn awgrymu bod Plaid Cymru yn ôl ar y blaen

Logo Etholiad Senedd 2026 Newyddion S4C

Mae arolwg olaf cwmni Survation cyn yr etholiad yn awgrymu bod Plaid Cymru wedi tynnu’n ôl ar y blaen.

Daw'r gwaith ymchwil diweddaraf wedi i arolwg barn gan yr un cwmni ar gyfer Newyddion S4C a Phrifysgol Aberystwyth wythnos yn ôl awgrymu bod Reform UK ar y blaen cyn etholiad y Senedd ddydd Iau.

Mae arolwg newydd Survation ddydd Mercher yn awgrymu bod Plaid Cymru ar 30.3% o’r bleidlais, i fyny 2.4 pwynt canran ar yr arolwg blaenorol.

Mae Reform ar 28.2%, i lawr 1.4 pwynt canran ar yr arolwg blaenorol.

Mae Llafur yn drydydd ar 15.3%, y Ceidwadwyr ar 9.5% a’r Blaid Werdd ar 7.2%.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 5.2% a’r pleidiau eraill ar 3.4%.

  • Plaid Cymru - 30.3% (+2.4)
  • Reform - 28.2% (-1.4)
  • Llafur - 15.3% (-0.1)
  • Y Ceidwadwyr - 9.5% (-0.5)
  • Y Blaid Werdd - 7.2% (-2.7)
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol - 6.2% (+2.5)
  • Pleidiau Eraill - 3.4% (-0.2)

Mae'n debyg mai Plaid Cymru fydd y blaid fwyaf yn Senedd Cymru am y tro cyntaf, meddai Survation. 

Mae eu model yn rhagweld y bydd Plaid yn ennill 35 sedd (amrediad rhwng 30 a 40), ychydig o flaen Reform UK ar 32 sedd (amrediad rhwng 28 a 36). 

Dim ond dwy sedd sydd rhwng y ddwy blaid yn eu hamcangyfrif ac mae'r amrediadau'n gorgyffwrdd sy'n dangos ras hynod o dynn am y blaid fwyaf.

Mae gan Plaid Cymru debygolrwydd o 78% o orffen yn gyntaf, o'i gymharu â siawns Reform o 22%, medden nhw.

Maen nhw'n rhagweld y bydd Llafur yn ennill 17 sedd (amrediad o 13-20), a fyddai'n ostyngiad hanesyddol o'u safle blaenorol fel y blaid ddominyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru. 

Rhagwelir y bydd y Ceidwadwyr yn ennill 6 (amrediad o 3-10), gyda'r Gwyrddion ar 3 (1-6) a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 2 (0-4).

Mae angen 49 sedd i sicrhau mwyafrif yn y Senedd newydd â 96 sedd, ac nid oes unrhyw blaid sengl yn agos at y trothwy hwnnw. 

"Mae ein modelu yn awgrymu y bydd Plaid yn dal y cydbwysedd pŵer a'r unig lwybrau i fwyafrif llywodraethol yw Plaid," meddai llefarydd ar ran Survation.

"Yn seiliedig ar y rhagamcanion sedd, byddai clymblaid Plaid a Llafur yn cyrraedd mwyafrif mewn 87% o'r amser yn ein model.

"Mae ychwanegu naill ai'r Gwyrddion neu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwthio'r tebygolrwydd hwnnw dros 97%, tra byddai cyfuniad o Reform a'r Ceidwadwyr ymhell o fod yn fwyafrif ar amcangyfrif o 38 sedd, heb lwybr clir i 49."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.