Carchar i ddyn wnaeth dreisio menyw ar ôl ei chyfarfod ar ap detio
Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi’i garcharu am dreisio dynes ar ôl ei chyfarfod ar ap detio.
Cafwyd Dexter Walkey, 30 oed, o'r Borth, yn euog ar ôl achos llys yn Llys y Goron Caerdydd.
Clywodd y llys eu bod wedi bod ar noson allan yng Nghaerdydd ac wedi dychwelyd i gartref y dioddefwr.
Yna fe ddeffrodd hi i ddarganfod fod Walkey yn ymosod arni yn rhywiol.
Anfonodd Walkey neges destun y diwrnod canlynol yn ymddiheuro. Yn ddiweddarach fe wadodd y drosedd o dreisio ond cafodd ei ganfod yn euog ym mis Mawrth.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener i wyth mlynedd yn y carchar a bydd yn destun i ofynion Cofrestru fel Troseddwr Rhyw am gyfnod amhenodol, yn ogystal â gorchymyn atal hyd nes ei fod yn cael gwybod fel arall.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Ellie Adkins o Heddlu De Cymru: “Hoffwn ganmol y dioddefwr am adrodd yr hyn a ddigwyddodd iddi ac am y cryfder mae hi wedi’i ddangos drwy gydol yr ymchwiliad.
“Rwy’n gobeithio bod y ddedfryd a osodwyd gan y llys yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at allu i’r dioddefwr symud ymlaen â’i bywyd.”
