Cymru yr unig le ym Mhrydain i weld cynnydd yn nifer y tafarndai ar ddechrau'r flwyddyn

Cwrw

Cymru yw'r unig le ym Mhrydain lle nad oedd gostyngiad yn nifer y tafarndai yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn, gan gofnodi cynnydd bychan.

Fe wnaeth tair tafarn agor yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, gan ddod â chyfanswm nifer y tafarndai yn y wlad i 2,901.

Wrth edrych ar y darlun ar hyd a lled Cymru, yr Alban a Lloegr, caeodd dwy dafarn bob dydd ar gyfartaledd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn yn sgil trethi uwch a chostau rheoleiddio, yn ôl ffigyrau'r diwydiant.

Mae Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain yn rhybuddio fod hyn yn cyfateb i golli tua 2,400 o swyddi, gyda gweithwyr iau yn cael eu taro galetaf.

Mae ffigyrau gan y gymdeithas yn dangos bod 161 o dafarndai wedi cau ar draws Prydain yn chwarter cyntaf y flwyddyn.

Dyma gynnydd o 26% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

'Angen newidiadau tymor hir' 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymorth ardrethi busnes i dafarndai yn dilyn rhybuddion gan y sector y gallai newidiadau treth pellach arwain at fwy o dafarndai'n cau, a gweithwyr yn colli eu swyddi.

Daeth rhyddhad treth o 15% ar gyfer tafarndai a lleoliadau cerddoriaeth i rym y mis diwethaf.

Ond roedd mesurau o gyllideb mis Tachwedd diwethaf, fel cynnydd yn yr isafswm cyflog, yn dal i gyfrannu at naid sylweddol yng nghostau tafarndai.

Dywedodd Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain fod y ffigyrau diweddaraf yn tynnu sylw at yr angen am newidiadau tymor hir i drethi busnes.

Dywedodd Emma McClarkin, prif weithredwr y gymdeithas: "Mae modd osgoi graddfa nifer y tafarndai sy'n cau oherwydd maen nhw'n brysur, ond mae eu helw yn cael ei ddileu gan faich treth anghymesur a chostau enfawr.

"I ormod o bobl, mae pwysau trethi a chostau rheoleiddio wedi eu gorfodi i gau eu siopau, a fydd ond yn niweidio cymunedau, gweithwyr a’r economi ehangach.

"Mae hyn yn tanlinellu pam roedd rhyddhad trethi busnes y Llywodraeth mor angenrheidiol, a’r gefnogaeth yn rhyddhad mawr oedd yn cael ei groesawu."

Ychwanegodd: "Rydym am weithio gyda’r Llywodraeth i sefydlu cynllun hirdymor parhaol a fydd yn darparu biliau is yn barhaol, system decach ac yn y pen draw yn amddiffyn y sector gwerthfawr hwn."

Daw'r ffigyrau diweddaraf yn dilyn gostyngiad o 336 yn nifer y tafarndai ym Mhrydain y llynedd i 44,656. 

Roedd yn golygu bod mwy na 2,000 o dafarndai wedi cau ers dechrau pandemig Covid-19 yn 2020.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.