Abertawe: Arestio menyw 37 oed wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd
02/05/2026
Mae menyw 37 oed wedi cael ei harestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd yn Abertawe nos Wener.
Dywedodd Heddlu'r De fod swyddogion wedi eu galw ar ôl adroddiadau o wrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar Ffordd Fabian yn y ddinas ychydig wedi 21:00.
Fe wnaeth parafeddygon fynychu hefyd ac fe gafodd pedwar o bobl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu na newid eu bywydau.
Cafodd menyw 37 oed ei harestio ar amheuaeth o yfed dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
