Gobeithion Wrecsam o gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr ar ben

wrexham.jpg

Mae gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail-gyfle a chadw'r freuddwyd o gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr ar ben.

Fe gafodd y Dreigiau gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ar y Cae Ras ddydd Sadwrn, ond fe wnaeth buddugoliaeth Hull yn erbyn Norwich olygu mai nhw oedd yn hawlio'r lle olaf ar gyfer y gemau ail-gyfle. 

Mae'r canlyniadau yn golygu bod Wrecsam yn gorffen yn y seithfed safle yn y Bencampwriaeth, wedi iddyn nhw sicrhau tri dyrchafiad yn olynol i gyrraedd y gynghrair yma. 

Fe lwyddodd Ipswich i sicrhau dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn wedi iddyn nhw guro Queens Park Rangers 3-0. 

Mae hyn yn golygu mai Millwall, Southampton, Middlesbrough a Hull fydd yn brwydro am y safle olaf yn Uwch Gynghrair Lloegr. 

Fe fydd Millwall yn wynebu Hull  gyda Southampton yn wynebu Middlesbrough yn y rowndiau cyn-derfynol, gydag enillydd y ddwy gêm yn mynd ymlaen i herio'i gilydd yn Wembley yn y rownd derfynol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.