Porthcawl i efeillio gyda thref yn Llydaw

Porthcawl

Mae Cyngor Tref Porthcawl wedi cyhoeddi y bydd y dref yn gefeillio gyda thref yn Llydaw.

Bydd y dref yn gefeillio gyda thref Ploudalmézeau, neu Gwitalmeze yn Llydaweg, sydd wedi’i lleoli yn ardal Finistère yng ngogledd-orllewin Ffrainc.

Daw’r cyhoeddiad wedi i drefniant gefeillio rhwng Porthcawl a thref Ffrengig arall, San Sebastián-sur-Loire, ddod i ben wedi “heriau Covid-19”.

Cafodd y cytundeb i efeillio’n ffurfiol ei arwyddo ym mis Mawrth yn ystod ymweliad gan aelodau’r cyngor a Chymdeithas Gefeillio Tref Porthcawl.

Image
Eglwys Ploudalmézeau
Eglwys Ploudalmézeau

Dywedodd Maer y dref, Elen Jones, bod y trefniant yn gyfle i “ddysgu ieithoedd ein gilydd, gan gynnwys y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Llydaweg, ac archwilio ein cysylltiadau Celtaidd.”

Ychwanegodd: “Er bod gwahaniaethau yn y ffordd y mae’r cynghorau’n gweithredu, mae yna nifer o agweddau sy’n debyg. Er enghraifft, sut mae tref fach yn ymdopi â thwristiaeth enfawr yn ystod yr haf neu’r cyfnod gwyliau, parcio, tai fforddiadwy, llygredd y môr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Yr hyn a safodd allan oedd eu strydoedd hyfryd a’u cylchfannau hardd yn llawn lliw, a rhai hyd yn oed wedi’u haddurno â golygfeydd stryd neu draeth. Y gobaith yw y gallwn ni rannu eu harbenigedd yn y meysydd hyn.”

Fel rhan o’r trefniant, bydd Maer Ploudalmézeau yn ymweld â Phorthcawl ym mis Medi, tra bod trafodaethau’n parhau dros gynnal ymweliadau cyfnewid ysgolion o 2027.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.