America i leihau'r nifer o filwyr yn Yr Almaen o 5,000
Mae Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod yn bwriadu lleihau'r nifer o filwyr yn Yr Almaen o 5,000.
Daw hyn wrth i'r anghydfod dros y rhyfel gydag Iran rhwng Yr Arlywydd Trump a'r Canghellor Friedrich Merz barhau.
Dywedodd Merz yn gynharach yr wythnos hon "nad oedd gan yr Americanwyr strategaeth yn amlwg".
"Mae Iran yn fedrus iawn wrth negodi, neu yn hytrach, wrth beidio negodi, gan adael yr Americanwyr i deithio i Islamabad cyn gadael unwaith eto heb ganlyniad," meddai.
Ychwanegodd fod y "genedl gyfan" yn cael ei "chywilyddio" gan arweinyddiaeth Iran.
Mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, dywedodd Trump fod Merz yn gwneud "swydd ofnadwy" a bod ganddo "broblemau o bob math", gan gynnwys mewnfudo ac ynni.
Mae gan yr Unol Daleithiau bresenoldeb milwrol sylweddol yn Yr Almaen, gyda mwy na 36,000 o filwyr ar draws y wlad ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Pentagon Sean Parnell fod y gorchymyn wedi dod gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn Pete Hegseth.
Mae Trump wedi bod yn beirniadu cynghreiriaid am wrthod cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i ail-agor Culfor Hormuz.
Wrth gael ei holi ddydd Iau os y byddai'n ystyried lleihau'r nifer o filwyr yr Unol Daleithiau o'r Eidal a Sbaen, ymatebodd drwy ddweud: "Mae'n debyg y byddwn i'n gwneud hynny - pam na ddyliwn i?
"Nid yw'r Eidal wedi bod yn unrhyw help o gwbl i ni ac mae Sbaen wedi bod yn ofnadwy," meddai wrth eu beirniadu am eu hymateb i'r rhyfel yn Iran.
Presenoldeb milwrol yr Unol Daleithiau yn yr Almaen yw'r mwyaf yn Ewrop, gyda thua 12,000 o filwyr yn yr Eidal a 10,000 arall yn y DU.
Llun: Reuters