Rhybudd i gerddwyr gadw draw o Ben y Fan wrth i dân gwyllt ledu

Tan Pen y Fan

Mae cerddwyr wedi cael eu rhybuddio i gadw draw o fynydd uchaf de Cymru ar drothwy penwythnos gŵyl y banc wrth i dân gwyllt ledu gerllaw.

Daw'r rhybudd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrth iddyn nhw ymateb i dân gwyllt tua 20 cilomedr sgwâr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

O ganlyniad i'r digwyddiad, mae'r gwasanaeth tân yn annog cerddwyr i gadw draw o Ben y Fan a'r ardal gyfagos dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Dylai'r rhai sy'n byw yn yr ardal gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau os ydyn nhw wedi cael eu heffeithio gan fwg, yn ôl y gwasanaeth tân.

Mewn datganiad nos Iau, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Ar hyn o bryd mae diffoddwyr tân yn delio â digwyddiad tân gwyllt mawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

"Mae'r digwyddiad yn cwmpasu ardal o tua 20 cilomedr sgwâr, gan effeithio ar goedwigaeth, mawn a glaswelltir.

"Mae adnoddau'r gwasanaeth tân yn cynnwys offer tân, cerbydau sy'n addas ar gyfer gwahanol dirweddau, a drôn y gwasanaeth tân. 

"Mae disgwyl i'r tân barhau i losgi dros nos."

Ychwanegodd: "Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu De Cymru, ac asiantaethau eraill i reoli'r digwyddiad a diogelu diogelwch y cyhoedd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.